Fe fydd aelodau undeb UCU ym Mhrifysgol Bangor yn cynnal cyfres o streiciau cyn y Nadolig yn dilyn sawl anghydfod.
Daeth cadarnhad y bydd y streiciau’n dechrau ddydd Llun nesaf (Tachwedd 25) ar ôl i fwy na 50% o’r aelodau bleidleisio o blaid gweithredu’n ddiwydiannol.
Mae disgwyl i’r streiciau bara hyd at Ragfyr 4, a bydd Prifysgol Bangor ymhlith 60 o brifysgolion sy’n cymryd rhan.
Mae un streic yn canolbwyntio ar bensiynau a’r llall ar gyflogau ac amodau gwaith.
Yn ystod y streiciau, bydd cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus yn egluro’r anghydfodau.
Y bleidlais
Fe bleidleisiodd 55% o aelodau UCU ym Mhrifysgol Bangor ar fater pensiynau ac o blith y rheiny, roedd 76% o blaid streicio.
Ar fater cyflogau ac amodau gwaith, 56% o aelodau bleidleisiodd, gyda 70% o blaid streicio.
Yn ôl UCU, dydy hi “ddim yn syndod” fod yr aelodau’n teimlo’n gryf am y ddau fater dan sylw.
Yr anghydfodau
Mae’r gweithwyr yn gwrthod derbyn argymhellion panel o arbenigwyr a gafodd ei sefydlu’r llynedd i edrych ar sut mae cyfrifo cyfraniadau pensiwn y gweithwyr.
Maen nhw’n argymell fod y gweithwyr yn cyfrannu mwy at eu pensiynau eu hunain ond mae UCU yn dymuno herio’r ffordd y cafodd y ffigwr ei gyfrifo.
O ran cyflogau ac amodau gwaith, mae gan Brifysgol Bangor gyfran uchel o staff achlysurol (65.3%) – 12.3% yn uwch na’r cyfartaledd trwy wledydd Prydain.
Ac mae’r bwlch cyflog hefyd yn broblem yn y brifysgol, gyda chyflogau dynion ar y cyfan 15.4% yn uwch na chyflogau menywod.
Gweithwyr yn “teimlo’r wasgfa”
Yn ôl UCU Prifysgol Bangor, mae’r aelodau’n teimlo’r wasgfa ariannol.
“Siaradais â nifer o’n haelodau academaidd ac aelodau eraill yn ystod chwe wythnos y cyfnod pleidleisio,” meddai Doris Merkl-Davies, is-lywydd UCU Bangor.
“Mae nifer fawr o aelodau, gan gynnwys y rhai sydd ar gytundebau amser llawn parhaol, yn teimlo’r wasgfa sy’n gyfuniad o gyflogau’n lleihau a chostau byw’n cynyddu, ond maen nhw’n barod i ymladd am gyflogau teg drwy fynd ar streic a derbyn ergyd ariannol a fydd yn sylweddol, ond – gobeithio – unwaith ac am byth.”
‘Penderfyniad anodd iawn’
“Mae ein haelodau wedi gwneud penderfyniad anodd iawn i streicio, ac nid ar chwarae bach y gwnaed hynny,” meddai Dyfrig Jones, Llywydd UCU Bangor.
“Rydym yn llwyr ddeall mor anghyfleus y bydd hyn i’n myfyrwyr, a gresynwn hefyd yn y modd y bydd hyn yn achosi caledi ariannol sylweddol i’n haelodau.
“Ond mae’r materion dan sylw yn rhy bwysig i ni laesu dwylo a gwneud dim.
“Yn y fantol y mae cymaint yn fwy na’n pensiynau ni yn unig – rydym yn ymladd dros ddyfodol addysg uwch ei hun.”