Mae arbenigwyr o Ganolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor wedi datblygu amrywiaeth o ddeunyddiau pecynnu bwyd bioddiraddadwy mewn partneriaeth â’r archfarchnad Waitrose a phrifysgol yn Wganda.

Yn ôl yr arbenigwyr bydd defnyddio india-corn, y coesynnau a’r cobynnau sy’n cael eu gadael yn y cae ar ôl cynaeafu’r india-corn yn darparu llif incwm newydd i’r tyddynwyr.

“Mae’r bartneriaeth sydd gennym gyda Phrifysgol Bangor, a phartneriaid eraill, yn defnyddio gwastraff india-corn i gynhyrchu deunyddiau pecynnu yn gyfle cyffrous i’n ffermwyr a gweithredwyr eraill yn y gadwyn gwerthoedd,” meddai Dr Stephen Lwasa o Goleg Amaethyddiaeth a Gwyddorau Amgylcheddol Prifysgol Makerere.

Mae gan Ganolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor dros 30 mlynedd o wybodaeth a phrofiad yn y maes yma.

“Gellir gweld y blychau wyau gwyrdd a phecynnu bwyd eraill wedi eu mowldio a gynhyrchwyd o’n cysyniad gwreiddiol mewn archfarchnadoedd Waitrose ledled y wlad ac maent wedi cael cryn groeso gan gwsmeriaid,” meddai Dr Adam Charlton, uwch gymrawd ymchwil yng Nghanolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor.