Byddai rhoi enw dwyieithog ar y Senedd “yn nawddoglyd i’r Cymry di-Gymraeg”, yn ôl y canwr ac is-gadeirydd Yes Cymru, Cian Ciarán.
Bydd ail bleidlais ar enw’r Senedd yn cael ei chynnal heddiw ar welliant Rhun ap Iorwerth, ar ôl i aelodau’r Cynulliad bleidleisio o 43 i 13 yn erbyn enw uniaith Gymraeg fis diwethaf.
Er bod cefnogaeth drawsbleidiol i gadw at enw uniaith Gymraeg ar gyfer y ddeddfwrfa genedlaethol, yn unol â gwelliant gan y cyn-brif weinidog Carwyn Jones, mae’r Gweinidog Jeremy Miles wedi penderfynu chwipio holl weinidogion Llywodraeth Cymru yn erbyn hynny.
Dim ond 28% o’r rhai wnaeth ymateb i bôl diweddar gan YouGov sydd am weld yr enw dwyieithog ‘Senedd Cymru / Welsh Parliament’, gyda 45% am weld yr enw uniaith Gymraeg ‘Senedd’ ar y sefydliad.
Roedd 7% yn awgrymu enw arall, a 20% yn ansicr.
Mae Cian Ciarán yn un o’r rhai sydd wedi llofnodi llythyr yn galw am gadw’r enw uniaith Gymraeg.
“Mae’r pôl diweddar yn dangos bod pobl yn barod i dderbyn yr enw Cymraeg, felly dwi ddim yn dallt o ble mae Carwyn yn dod, ddim yn dallt ei safbwynt, pam mae wedi cynnig y diwygiad yma,” meddai Cian Ciarán wrth golwg360.
“Dwi’n ffeindio fo’n nawddoglyd i’r Cymry di-Gymraeg. Fyset ti ddim yn mynd i unrhyw wlad arall yn y byd a rhoi enw arall ar eu prif sefydliadau.
“Dwi’n meddwl bod yr iaith yn rhywbeth sydd angen ei dathlu, ac mae’r mater wedi cael ei thrafod dros yr wythnosau ddwetha. Y bwriad ydy cyfathrebu bod yr iaith i bawb.”
‘Iaith i bawb’
“Os dydy Cymru ddim efo’r hunan-hyder i alw’r Senedd yn Senedd, fel mae’r Iwerddon yn galw’r Dail yn Dail, mae hwnna’n gymhariaeth hollol amlwg,” meddai wedyn.
“Mae’n nawddoglyd i weddill y boblogaeth i feddwl eu bod nhw’n methu dallt neu ddysgu gair Cymraeg. Ac mae Cymru yn wlad sawl iaith: Pwyleg, Wrdw, Arabeg, Eidaleg, Malteg, ac ati.
“Dwi ddim yn siŵr iawn i ba bwrpas maen nhw’n neud hyn, pwy maen nhw’n trio plesio neu be maen nhw’n trio ei gyflawni. Mae o’n teimlo fel gwastraff amser, yn enwedig yn sgil popeth arall sy’n digwydd yn y byd.
“Maen nhw’n trio cael miliwn o bobl i siarad Cymraeg, wel dangos y camau bach: mae enwi’r Senedd yn Senedd ynddo ei hun yn gam bwysig i gyflawni hwnna.”