Fe fydd Seland Newydd yn cynnal refferendwm y flwyddyn nesaf ar gyfreithloni ewthanasia.
Mae polau piniwn yn awgrymu bod y mwyafrif o drigolion y wlad o blaid cyfreithloni.
Cafodd bil i gynnal refferendwm ei basio yn y senedd o 69 o bleidleisiau i 51.
Ond pe bai’n cyfreithloni, dim ond pobol sy’n dioddef o salwch angheuol ac sy’n debygol o farw o fewn chwe mis fydd yn cael manteisio ar y gyfraith newydd.
Ac fe fydd rhaid iddyn nhw brofi poen ddifrifol, ac nad oes ganddyn nhw opsiwn arall heblaw dewis marw.
Yn wahanol i ddeddfwriaeth yng ngweddill y byd sy’n rhoi’r hawl i feddyg neu nyrs roi presgripsiwn am gyffuriau ewthanasia, byddai hefyd yn rhoi’r hawl i feddyg neu nyrs roi’r cyffuriau i’r claf.
Mae 39,000 o sylwadau wedi’u rhoi ar y ddeddfwriaeth arfaethedig, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n gwrthwynebu ewthanasia, yn groes i farn honedig y cyhoedd.
Mae gwrthwynebwyr yn dweud bod cyfreithloni ewthanasia’n gyfystyr ag ail-gyflwyno’r gosb eithaf.