Mae Steve Bray, ymgyrchydd 50 oed sy’n cael ei adnabod fel ‘Mr Dim Brexit’, am frwydro i ennill sedd Cwm Cynon i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan.
Mae wedi dod i’r amlwg wrth ddal arwyddion i fyny y tu allan i San Steffan yn ystod darllediadau byw, yn dangos ei wrthwynebiad i ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.
Ond mae Jo Swinson, arweinydd y blaid, yn dweud na ddylid ystyried ei ymgyrch yn “jôc”.
“Caiff ein hymgeiswyr eu dewis gan bleidiau lleol a chenedlaethol, felly bydd yr etholaeth wedi dewis Steve i fod yn ymgeisydd,” meddai.
“Mae e’n aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol, ac yn ymgyrchydd brwd.
“Mae e wedi dod yn fwyfwy adnabyddus yn yr ymgyrch tros Aros, a dw i’n siŵr y bydd e’n dod â’r un egni i’r ymgyrch yma yng Nghymru.”
‘Dim jôc’
Dywed Jo Swinson nad yw hi’n cytuno â’r rhai sy’n debygol o ystyried ymgeisyddiaeth Steve Bray yn “jôc”.
“Byddwn i’n dweud yn barchus fy mod i’n anghytuno, a’i fod e’n rhywun sydd yn cadw at ei werthoedd ac yn hidio’n arw.
“Dw i’n meddwl ein bod ni am i’n gwleidyddion hidio am y materion maen nhw’n mynd i’r afael â nhw.
“Dw i’n credu bod Steve yn enghraifft o rywun sy’n gwneud hynny’n amlwg iawn.”