Mae Chris Davies, cyn-aelod seneddol Ceidwadol Brycheiniog a Maesyfed, am frwydro dros y blaid i ennill sedd Ynys Môn.

Fe gollodd ei sedd, ac ymdrech i’w hadennill, yn gynharach eleni ar ôl pledio’n euog i ddau gyhuddiad o hawlio treuliau ffug.

Ac roedd wedi ceisio’n aflwyddiannus i ennill ymgeisyddiaeth ei blaid ar gyfer sedd Brycheiniog a Maesyfed unwaith eto cyn troi ei sylw at Ynys Môn.

Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, oedd wedi ennill yr hawl i’w olynu ym mis Awst ar ôl i drigolion lleol lofnodi deiseb yn galw am is-etholiad.

Mae Albert Owen, aelod seneddol Llafur Ynys Môn, yn camu o’r neilltu ar ôl 18 mlynedd yn y swydd ac me’r blaid wedi dewis Mary Roberts fel ymgeisydd y tro hwn.

Ymgeisydd Plaid Cymru yw’r cyn-newyddiadurwr Aled ap Dafydd, a dydy’r Democratiaid Rhyddfrydol na’r Blaid Werdd ddim am sefyll, a hynny fel rhan o’r pact gwleidyddol rhwng y tair plaid.

Helen Jenner yw darpar-ymgeisydd Plaid Brexit.

‘Anghredadwy’

Fe fu Plaid Cymru’n beirniadu’r penderfyniad y Ceidwadwyr i ddewis Chris Davies i frwydro am sedd Ynys Môn.

“Mae hyn yn anghredadwy gan y Torïaid,” meddai Aled ap Dafydd, ymgeisydd Plaid Cymru.

“Mae gorfodi cyn-aelod seneddol sydd wedi’i gael yn euog o hawlio treuliau’n anghyfreithlon yn ymgeisydd ar yr ynys yn dangos cyn lleied maen nhw’n poeni am yr ynys,” meddai.

“Mae hyn yn gwatwar pobol yr ynys.

“Mae pobol Ynys Môn yn haeddu aelod seneddol gonest a fydd yn gweithio’n galed i’w cynrychioli nhw.”