Daeth cadarnhad mai corff Gareth Morris, 37 oed o’r Coed Duon, y daeth yr heddlu o hyd iddo ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 9).
Daethon nhw o hyd i’w gorff ger ystad ddiwydiannol yn ardal Tredegar Newydd am oddeutu 12.50yp.
Roedd wedi bod ar goll ers dydd Gwener.
Mae ei gorff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol.
Dydy ei farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.