Mae llanc 15 oed wedi cael ei saethu’n farw, ac unigolyn arall yn ei arddegau wedi’i anafu’n ddifrifol, yn dilyn ymosodiad arfog ar fwyty pizza yn Sweden.
Aeth nifer o ddynion arfog i mewn i’r bwyty yn ninas Malmo yn yr ymosodiad diweddaraf i daro’r ddinas.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad am oddeutu 9 o’r gloch neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 9).
Yn ôl tystion, fe wnaeth y dynion arfog ddianc ar gefn beiciau.
Funudau cyn hynny, roedd ffrwydrad yn y ddinas ar ôl i fom gael ei osod o dan gar.
Dydy hi ddim yn glir eto a oes cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad.