Mae’r cyflwynydd John Humphrys yn disgrifio’r gallu i ynganu’r enw llawn ar dref Llanfairpwll fel “tric parti”.

Fe ddaeth ei sylwadau yn ystod fersiwn enwogion o’r cwis teledu Mastermind neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 9).

Roedd y newyddiadurwr a chyflwynydd, sy’n enedigol o Gymru, yn siarad â Sean Fletcher, newyddiadurwr a chyflwynydd o Loegr sydd wedi symud dros y ffin ac wedi dysgu Cymraeg.

Mae Sean Fletcher yn briod â Luned Tonderai, merch yr Athro Robert Owen Jones, cyn-Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

‘Tric parti’

Wrth gyflwyno’r gwestai, dywedodd John Humphrys fod Sean Fletcher yn enedigol o Efrog Newydd, ond ei fod e wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg, cyn gofyn pam.

“Ga i’ch profi chi ar enw’r lle hwnnw?” meddai wrth agor y sgwrs, cyn i Sean Fletcher gyfaddef nad yw’n gallu ei ynganu.

“Dw i ddim yn eich beio chi,” meddai John Humphrys wedyn, cyn ychwanegu, “Dw i wedi gwastraffu tipyn o’m bywyd yn ceisio’i ddysgu fe.

“Dyw e ddim wedi bod yn ddefnyddiol iawn heblaw nawr, ond dyna ni. Pam Cymraeg?”

Eglurodd Sean Fletcher ei gefndir, gan ddweud ei fod e wedi addo i’w ddarpar-wraig ar ddiwrnod eu priodas “ar ôl gwydryn neu ddau o win” y byddai’n mynd ati i ddysgu’r iaith.

“Da iawn,” meddai John Humphrys.

“Ar wahân i unrhyw beth arall, a dw i ddim eisiau sarhau’r iaith Gymraeg sydd, wrth gwrs, yn hardd ac yn rhyfeddol ac yn y blaen, ond dyw e ddim yn dric parti drwg, nac ydy?”

Siarad Cymraeg o flaen pobol eraill

Dywed Sean Fletcher wedyn fod y Gymraeg yn ddefnyddiol “os ydych chi’n siarad â’ch teulu am bobol eraill yn yr ystafell”.

Mae’n dweud wedyn i hynny ddigwydd iddo rywdro ar fws pan oedd e’n siarad â’i fab “am rywun oedd yn edrych braidd yn od”.

“Wnaeth e droi rownd a dweud ‘Shwmai, sut dach chi?’ a dechrau siarad yn Gymraeg, gan ddeall popeth roedden ni wedi bod yn ei ddweud’.

“Mae’n destun rhywfaint o embaras.”