Mae undeb athrawon yn galw am gynllun cenedlaethol ar gyfer dysgu cerddoriaeth mewn ysgolion yng Nghymru.

Daw’r alwad yn ystod cynhadledd NEU Cymru yng ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd.

Cymru yw’r unig wlad o blith gwledydd Prydain sydd heb gynllun penodol, wrth i’r undeb rybuddio bod y pwnc yn dechrau dod yn “elitaidd”, gyda’r rheiny sy’n gallu fforddio gwersi’n unig yn cael y cyfle i ddysgu chwarae offerynnau.

Dywed yr undeb nad yw hynny’n “deg nac yn gyfiawn”.

Cyflwyno cynnig

Bydd cynnig yn cael ei gyflwyno ar y pwnc yn ystod y gynhadledd.

Mae’n dweud bod y sefyllfa “yng ngwlad y gân yn warthus”.

“Mae addysg cerddorol ac arbenigedd mewn offerynnau yn dod yn dir y rhai sydd ag arian ac yn rhan o dirwedd elitaidd nad yw’n deg nac yn gyfiawn.

“Mae Cynhadledd Cymru’n gorchymyn y pwyllgor gwaith gydag NEU Cymru i ymgyrchu, negodi a thrafod gyda Llywodraeth Cymru sut y dylid paratoi, prisio a chyflwyno’r fath gynllun fel ei fod o fudd i holl bobol ifanc Cymru.

“Mae Cynhadledd Cymru, ymhellach, yn gorchymyn y pwyllgor gwaith i gydweithio â’r holl bobol sydd â buddiant er mwyn sicrhau nad yw ein treftadaeth gerddorol gyfoethog yn mynd yn angof.”

Gwelliant

Mae gwelliant hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynydd gwariant awdurdodau lleol i ddarparu gwersi cerddoriaeth ac i warchod y gwariant hwnnw.

Mae hefyd yn galw am gynllun ‘hawl i brynu neu rentu’ offerynnau er mwyn sicrhau mynediad parhaus i ddisgyblion i’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer gwersi.

Noda’r gwelliant hefyd y dylid cyflwyno ’safonau aur’ er mwyn mesur perfformiad ac ansawdd darpariaeth awdurdodau lleol ym maes cerddoriaeth.

‘Hanes balch’

“Mae creadigrwydd wrth galon y cynlluniau ar gyfer Cwricwlwm newydd, felly mae angen cymryd pryderon aelodau am gerddoriaeth mewn ysgolion o ddifrif,” meddai David Evans, Ysgrifennydd Cymru NEU Cymru.

“Byddwn ni’n ceisio cydweithio â’n partneriaid i dynnu sylw at dranc addysg cerddoriaeth, gan ofyn i Lywodraeth Cymru baratoi cynllun sydd wedi’i brisio, er mwyn sicrhau y bydd o fudd i bob person ifanc yng Nghymru, ac er mwyn sicrhau nad yw ein hanes cerddorol balch yn cael ei golli.