Mae’r ddau fachgen yn eu harddegau o Gaerdydd a gafodd eu harestio gan heddlu gwrth derfysgaeth yn Kenya wedi cael eu hestraddodi yn ôl i wledydd Prydain heddiw.

Mae disgwyl i’r ddau, sy’n 18 oed,  gael eu holi gan yr heddlu yn y DU ynglŷn â phryderon eu bod nhw wedi dod i gysylltiad â grŵp Islamaidd eithafol.

Cafodd Mohamed Mohamed Abdallah, o dras Somali, a Iqbal Shahzad, o dras Pacistanaidd, eu harestio yn Kenya ger y ffin â Somalia dros y penwythnos. Roedd y ddau wedi diflannu o’u cartrefi yng Nghaerdydd dros wythnos yn ôl.

Stori’r tad

Heddiw bu tad Mohamed, Abdirhman Haji Abdallah, yn dweud sut yr oedd wedi hedfan i Nairobi  am ei fod yn poeni bod ei fab yn bwriadu ymuno â’r grŵp gwrthryfelgar Islamaidd al Shabab.

Dywedodd Abdirhman Haji Abdallah ei fod wedi hysbysu’r awdurdodau yn Nairobi am ddiflaniad y ddau a’i fod wedi rhoi lluniau iddyn nhw hefyd.

Cafodd y ddau eu hebrwng i faes awyr Nairobi, prifddinas Kenya, bore ma a’u hestraddodi i Brydain.

Yr heddlu’n dilyn

Mae’r heddlu yn Kenya wedi datgelu bod y ddau wedi bod dan oruchwyliaeth ers iddyn nhw gyrraedd y wlad, a bod yr heddlu wedi dilyn eu symudiadau wrth iddyn nhw deithio o amgylch y wlad.

Dywedodd llefarydd ar ran heddlu Kenya, Charles Owino bod y ddau wedi cael eu hestraddodi, nid eu rhyddhau.

Ychwanegodd bod yr awdurdodau yn Kenya yn bryderus bod Islamiaid radical yn dedfnyddio’r wlad fel “mynedfa” i Somalia.

Dywedodd efallai y dylai’r heddlu ym Mhrydain gadw llygad ar symudiadau’r ddau nawr eu bod wedi dychwelyd i’r DU.

Mae Heddlu De Cymru wedi dweud na fyddan nhw’n gwneud sylw ar y mater.