Mae Rhodri Glyn Thomas AC wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn “poeni am statws S4C fel darlledwr cyhoeddus os nad oes rhaglen newyddion sylweddol yn rhan o’u darllediadau.”
Daw hyn wedi i amheuon godi am ddyfodol gwasanaeth newyddion presennol S4C gyda’r sianel yn tendro am raglen gylchgrawn nosweithiol sy’n cynnwys y newyddion.
Mae BBC Cymru wedi dweud wrth Golwg360 ddoe eu bod yn “cynnal trafodaethau rheolaidd gyda S4C ynglŷn â’u cynlluniau darpariaeth newyddion.”
Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, AC Plaid Cymru, wrth Golwg360: “Dw i’n poeni am statws S4C fel darlledwr cyhoeddus os nad oes ’na raglen newyddion sylweddol fel rhan o’u darllediadau,” meddai.
Dywedodd nad yw’n gwybod am ddarlledwr cyhoeddus cenedlaethol sydd ddim yn darparu rhaglen newyddion arbennig. “Mae e’n codi pryder yn fy meddwl i ynglŷn â’r broses gomisiynu a throi at raglenni mwy ysgafn poblogaidd – byddai hynny yn gwneud drwg mawr i enw da S4C fel darlledwr cyhoeddus,” meddai.
‘Newyddiaduraeth o’r safon uchaf’
Ychwanegodd: “Dw i’n rhyfeddu braidd bod S4C yn bwriadu – yn ôl be ’dw i’n ddeall – gwneud i ffwrdd gyda’r newyddion fel y mae o. Oherwydd, mae’n rhan o ddarpariaeth y BBC ar gyfer S4C – dydyn nhw ddim yn gorfod talu am y rhaglen newyddion hyd y gwn i,” meddai.
“Mae’n beth od bod nhw’n gwneud i ffwrdd â gwasanaeth sydd ar gael iddyn nhw gan y BBC. Mae’n caniatáu iddyn nhw gael newyddiaduraeth o’r safon uchaf ac mae’n caniatáu i ni weld y newyddion yn y Gymraeg,” meddai cyn Weinidog Treftadaeth Cymru.
“Dw i’n amau’n fawr a fydd pobl yn taro i mewn i ganol rhaglen gylchgrawn er mwyn gwylio’r newyddion.”
Mae’n disgrifio’r gwasanaeth fel un “eithriadol bwysig.”
Prif Weithredwr
Eisoes, mae Rhodri Glyn Thomos wedi lleisio pryder dros ddyddiad dechrau Prif Weithredwr newydd y sianel, Ian Jones. Cafodd ei benodiad ei gyhoeddi ddoe ond mae’n ymddangos na fydd yn cychwyn ei swydd tan 22 Ebrill, 2012.
“Mae’n ymddangos bod penderfyniad wedi’i wneud i gael gwared â’r rhaglen newyddion cyn bod y Prif Weithredwr newydd yn dechrau ei swydd. Onid dyma’r union fath o benderfyniadau y byddai disgwyl i’r Prif Weithredwr arwain y trafodaethau arnyn nhw?
“Un o’r pethe byddwn i wedi mynnu rhoi mewn cytundeb ydi – nad oedd na unrhyw benderfyniadau pell gyrhaeddol yn cael ei gwneud os nad oedd rhaid – cyn mod i’n dechrau’r gwaith.”
“Mae’n drueni hefyd nad yw’n rhan o’r trafodaethau gyda’r BBC. Mae’n rhaid mynd ymlaen â’r trafodaethau hynny yn absenoldeb y Prif Weithredwr ac mae hynny hefyd yn anffodus a dweud y lleiaf,” meddai.
“Byddai’n dda o beth bod y Prif Weithredwr newydd yn ei le yn cydweithio gyda’r Cadeirydd newydd a bod y ddau ohonyn nhw’n arwain y trafodaethau yma. Neu, mae ’na beryg difrifol bod y Prif Weithredwr yn cyrraedd a bod ’na benderfyniadau wedi’u cymryd nad yw’n llwyr gytuno â nhw.”
‘Gwasanaeth di-dor’
“Bydd yr awr rhwng 7pm a 8pm yn creu’r teimlad o wasanaeth di-dor i’r gwylwyr,” meddai S4C yn y ddogfen dendr wrth sôn am y rhaglen gylchgrawn nosweithiol.
“Bydd yn cynnwys y brif raglen newyddion, y rhaglen gylchgrawn a bwletinau newyddion byr a thywydd, yn ogystal ag elfennau hyrwyddo gweddill rhaglenni’r noson, wedi eu gweu i mewn i’r slot. Bydd y Cylchgrawn yn cael ei ddarlledu’n nosweithiol o nos Lun i nos Iau,” meddai S4C yn y ddogfen dendr.
Ar hyn o bryd, caiff Wedi 7 ei darlledu am 7pm gyda rhaglen newyddion hanner awr yn dilyn am 7.30pm.