Mae’r heddlu wedi gwneud apel i geisio dod o hyd i lygad-dyst yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar y ffordd rhwng Dinas Powys a’r Barri ddydd Sul.
Cafodd Tara Mackie ei lladd ar ôl cael ei tharo gan gar Ford Fiesta du tra’n cerdded ar hyd Ffordd Caerdydd ar fore Sul am 9.20am.
Cafodd Tara Mackie, 25 oed, ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ond bu farw’n ddiweddarach.
Mae’r heddlu’n credu bod car yn teithio i gyfeiriad Dinas Powys wedi mynd heibio seiclwr yn agos at y safle lle digwyddodd y ddamwain, ac mae’n bosib y gallai’r gyrrwr helpu’r heddlu gyda’u ymholiadau.
Dywed yr heddlu eu bod yn pwysleisio nad ydy gyrrwr y car o dan amheuaeth. Mae nhw’n annog y gyrrwr i gysylltu â nhw am eu bod yn credu y gallai fod wedi gweld y ddamwain ac â gwybodaeth sy’n hanfodol i’r ymchwiliad.
Mae nhw’n galw ar y gyrrwr i’w ffonio ar 101.
Cafodd y ffordd ei chau yn ystod y bore ddoe er mwyn i deulu a ffrindiau Tara Mackie osod blodau ger y safle.
Mae gyrrwr 24 oed y car Ford Fiesta wedi cael ei ryddhau ar fechniaeth tra bod ymchwiliadau’n parhau.
Gall unrhywun sydd â gwybodaeth ffonio 101, neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.