Ddyddiau’n unig wedi i Paddy Power ad-dalu cefnogwyr oedd wedi rhoi eu harian ar Gymru i ennill yn erbyn Ffrainc, mae’r cwmni betio wedi cyhoeddi eu bod nhw’n mynd i gychwyn talu enillion cefnogwyr Seland Newydd heddiw, pum niwrnod cyn i’r gêm hyd yn oed ddechrau.

Mae’r cwmni wedi cyhoeddi eu bod nhw’n mynd i dalu £600,000 o enillion i bobol sydd eisoes wedi rhoi eu harian tu ôl i’r crysau duon, gan fod cwpan rygbi’r byd “cystal â bod drosodd,” yn ôl llefarydd ar ran y cwmni.

Fe fydd Seland Newydd yn herio Ffrainc yn rownd derfynol cwpan rygbi’r byd yn Auckland ddydd Sul, wedi i’r Ffrancwyr guro Cymru o un pwynt y unig ddydd Sadwrn, ac wedi i Seland Newydd guro Awstralia o 14 pwynt ddydd Sul.

“Mae Seland Newydd wedi gadael bob gwrthwynebydd mor belled yn gleisiau i gyd,” meddai’r llefarydd, “ac mae’n anochel y bydd bwcis fel ni yn cael ein curo ganddyn nhw ddydd Sul hefyd, felly does dim pwynt cadw’r cefnogwyr i aros cyn casglu eu henillion.”

Y Crysau duon oedd y ffefrynnau gan Paddy Power cyn i’r gystadleuaeth gychwyn.

Y penwythnos diwethaf, fe ddychwelodd y cwmni betio dros £200,000 i gefnogwyr Cymru ar ôl y garden goch ddadleuol i gapten y tîm, Sam Warburton, a arweiniodd at sgôr terfynol o Cymru 8 – 9 Ffrainc. Roedd y cwmni’n dadlau bod Cymru wedi cael cam.