Mae’r tîm pêl-droed cenedlaethol wedi codi i safle rhif 45 yn rhestr detholion y byd FIFA.

Roedd Cymru eisoes wedi codi rhywfaint yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Montenegro ym mis Medi.

Er hynny, doedd safle rhif 90 ddim yn adlewyrchu safon tîm addawol Cymru a bydd y rheolwr, Gary Speed yn falch o weld ei dîm yn codi 45 o safleoedd i’r hanner uchaf.

Sicrhawyd hynny gan y ddwy fuddugoliaeth gefn-wrth-gefn yn erbyn Y Swistir a Bwlgaria’r wythnos ddiwethaf.

Maen nhw bellach yn uwch na thimau fel Yr Alban, Y Weriniaeth Siec a De Affrica.

Sbaen sy’n aros ar frig rhestr detholion FIFA, gyda’r Iseldiroedd yn ail a’r Almaen yn drydydd.

Mae Lloegr wedi codi un safle a bellach yn seithfed ar ôl ennill grŵp Cymru yn ymgyrch rhagbrofol Ewro 2012.