David Pocock - un o brif chwaraewyr Awsralia
Mae Awstralia wedi gwneud rhes o newidiadau i’w tîm ar gyfer y gêm trydydd lle yng Nghwpan y Byd.
Roedd eu hyfforddwr wedi cyhoeddi eisoes y byddai pedwar o’r cap yn eisiau ar ôl cael eu hanafu yn y gêm gynderfynol yn erbyn y Teirw Duon.
Ond fe fydd Cymru’n wynebu dau o chwaraewyr sydd wedi cael eu rhoi ar restr fer y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ar gyfer Chwaraewr y Flwyddyn.
Fe fydd y blaenasgellwr David Pocock yn un o’r ffefrynnau ar ôl dod yn ail y llynedd ac roedd llawer wedi edrych ymlaen at y frwydr rhyngddo ef a chapten Cymru, Sam Warburton.
Mae’r mewnwr Will Genia hefyd ar y rhestr, ynghyd â’r Ffrancwr Thierry Dusautoir a’r tri o Seland Newydd, Weepa, Kaino a Ma’a Nonu.
Beale yn ôl
Fe fydd y cefnwr Kurtley Beale – un o restr fer y llynedd – yn ôl gydag atgofion melys am chwarae Cymru yn ei gêm ryngwladol gynta’.
Fe fydd y maswr dadleuol, Quade Cooper, hefyd yn cadw’i le ar ôl cael gêm galed yn erbyn Seland Newydd, ei wlad enedigol.
Er gwaetha’r newidiadau, mae’r Wallabies wedi pwysleisio eu bod o ddifri’ ynglŷn â’r gêm fore Gwener.
Carfan Awstralia
Olwyr
15. Kurtley Beale
14. James O’Connor
13. Adam Ashley-Cooper
12. Berwick Barnes
11. Digby Ioane
Haneri
10. Quade Cooper
9. Will Genia
Blaenwyr
1. James Slipper
2. Tatafu Polota-Nau
3. Salesi Ma’afu
4. James Horwill
5. Nathan Sharpe
6. Scott Higginbotham
7. David Pocock
8. Ben McCalman
Eilyddion:
16. Saia Faingaa
17. Ben Alexander
18. Rob Simmons
19. Radike Samo
20. Luke Burgess
21. Anthony Faingaa
22. Robert Horne