Mae sefydliadau a ffigyrau chwaraeon ar hyd Cymru wedi dangos eu gwerthfawrogiad i bobl sy’n chwarae’r loteri mewn llythyr ar y cyd a fideo.
Un o’r rheini yw’r bêl-droedwraig ryngwladol Ffion Morgan, wnaeth chwarae i Gymru am y tro cyntaf yn ystod gemau rhagbrofol Cwpan Y Byd y Merched.
Mae cyllid gan y Loteri Genedlaethol yn rhoi hwb i chwaraeon drwy wella cyfleusterau a rhoi mwy o gyfleoedd i bobl chwarae.
Dros y 25 mlynedd ddiwethaf, mae mwy na £166 miliwn o gyllid y Loteri wedi ei wario ar 17,300 o brosiectau chwaraeon yng Nghymru.
“Mae mor bwysig buddsoddi mewn chwaraeon ar lawr gwlad a helpu pobl i fod yn actif ac yn heini,” meddai Ffion Morgan.
“Mae cymaint o fanteision i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon ac mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn ei wneud yn bosib.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr y Loteri, Sarah Powell: “Yn ystod y 25 mlynedd ddiwethaf, mae’r Loteri Genedlaethol wedi gwneud byd o wahaniaeth i chwaraeon yng Nghymru.
“Yr effaith amlycaf yw ein hathletwyr elitaidd ni efallai, sy’n ennill medalau yn y Gemau Olympaidd a Chymanwlad, yn cyflawni campau anhygoel yn eu hymdrechion chwaraeon, ac yn dangos angerdd a balchder Cymru ar lwyfan y byd.”
Mae Ffion Morgan i’w gweld yn dweud diolch yn y fideo yma: