Mae Cymdeithas bêl-droed Cymru yn bwriadu agor canolfan ragoriaeth ym Mro Morgannwg.
Bydd y Gymdeithas bêl-droed yn cymryd Pafiliwn y Fro drosodd gan dîm rygbi Gleision Caerdydd.
Tra bydd tîm pêl-droed Caerdydd yn parhau i ddefnyddio’r cyfleusterau fel tenantiaid. Mae disgwyl y bydd gwaith ar y ganolfan rhagoriaeth yn cymryd wyth mis, gyda’r Gymdeithas bêl-droed yn gobeithio symud i mewn haf nesaf.
Dywed Prif Weithredwr Cymdeithas pêl-droed Cymru Jonathan Ford fod y datblygiadau yn rhai “cyffrous iawn i ein staff, y garfan ryngwladol a’r hyfforddwyr”.