Mae Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi amddiffyn y penderfyniad i daro bargen gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol, er mwyn ethol cyn gymaint â phosib o Aelodau Seneddol Cymreig sydd eisiau atal Brexit.
Bu rhai Pleidwyr yn beirniadu’r arweinyddiaeth am greu pact gydag Arweinydd y Lib Dems.
Mae Jo Swinson wedi pleidleisio gyda’r Torïaid dros dorri budd-daliadau’r anabl, ac wedi fotio yn erbyn gosod treth ar dâl bonws y bancwyr.
Mae rhai Pleidwyr hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith fod Jo Swinson yn cynrychioli etholaeth yn yr Alban, Dwyrain Dunbartonshire, ac yn chwyrn yn erbyn annibyniaeth i’r wlad honno.
Polisi Plaid Cymru yw ymgyrchu tros Gymru annibynnol.
Ond mae Liz Saville Roberts wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg ei bod yn bendant bod y Blaid yn iawn i glosio at y Lib Dems.
“Sut arall ydan ni yn mynd i newid pethau?
“Rydan ni wrth gwrs yn wahanol bleidiau. Rydan ni yn sefyll dros wahanol egwyddorion. Ond o aros wedi ymrannu fel yna, fedrwn ni ddim cyflawni’r newid mawr.
“Wrth gwrs ein bod ni yn daer anghytuno gyda’r Lib Dems ar wahanol bynciau… ni fydden ni yn bleidiau gwleidyddol gwahanol oni bai bod ganddo ni safbwyntiau gwahanol.
“Ond yr hyn mae gwleidyddiaeth Brydeinig wedi gwneud yw rhannu pobol lawr y canol. Ac os rydan ni yn parhau i roi’r dadleuon pleidiol fel rheswm i beidio cydweithio ar her fawr ein hoes ni, sef Brexit, rydan ni yn chwarae i mewn i ddwylo’r Asgell Dde Brydeinig, genedlaetholgar, sydd yn barod i gydweithio…
“Fedrwn ni fod yn bur ac yn berffaith ac yn cadw at ein hegwyddorion, a chyflawni dim…
“Yr hyn sy’n glir i mi yw bod Brexit yn fygythiad go existential i’n cymunedau Cymraeg ni, ac os nad ydan ni yn cwffio tros y pwnc yna, a ddim yn cydweithio gydag eraill i wireddu newid i’r pwnc yna, beth ydy pwynt cael gwleidyddion?”
Merched yn cefnu ar wleidyddiaeth
Un o themâu cynnar yr etholiad cyffredinol yw’r nifer o ferched amlwg sy’n cefnu ar wleidyddiaeth, a hynny yn rhannol oherwydd yr ymosodiadau personol maen nhw yn eu diodde’ ar y We.
Ni fydd y cyn-Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd na’r cyn-Ysgrifennydd Addysg Nicky Morgan yn sefyll yn yr etholiad sydd i ddod.
Mae Liz Saville Roberts yn dweud bod “pob gwleidydd… yn ddynion ac yn ferched” wedi “cael eu galw yn bob enw o dan haul”, a hynny “yn bennaf” ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Mae am fod yn etholiad pan fydd angen i ymgeiswyr fod yn gadarn eu barn, a bydd angen cefnogaeth o’u cwmpas nhw.
“Ond os ydan ni – ac mae hyn yn enwedig yn wir o ran merched – os ydan ni yn cilio yn ôl o’r llwyfan gwleidyddol, lleisiau pwy ydan ni yn mynd i glywed?
“A phan rydach chi yn colli amrywiaeth y lleisiau, rydach chi’n colli amrywiaeth presenoldeb mewn gwleidyddiaeth.
“Mae diffyg presenoldeb mewn gwleidyddiaeth yn golygu fod rhai carfannau yn mynd heb eu cynrychioli.
“Ac mae hwnna yn tueddu i ganiatáu bod y rhai cryfaf, mwyaf cyfoethog, mwyaf grymus yn cael eu ffordd eu hunain.
“Rydw i’n cofio’r diweddar Paul Flynn yn dweud yn ei lyfr How to be an MP: ‘Eich dyletswydd chi fel Aelod Seneddol yw i wneud yn siŵr bod y rhai sydd heb lais, yn cael llais. Achos fe fydd y rhai sydd gyda llais yn gallu cael eu ffordd yn ddigon braf’.”
Mwy gan Liz Saville Roberts yn rhifyn yr wythnos yma o gylchgrawn Golwg