Mae ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi gorfod camu o’r neilltu ffel rhanno ddêl gyda Phlsid Cymru a’r Gwyrddion, wedi cyhoeddi y bydd yn ymladd sedd Pontypridd yn annibynnol.
Mae Mike Powell yn gynghorydd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf, ac wedi cynrychioli’r blaid mewn etholiadau cyffredinol droeon.
Ond yn sgil cytundeb â Phlaid Cymru a’r Gwyrddion, mae wedi cael ei orfodi i beidio â herio Pontypridd yn enw’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Bellach mae wedi cefnu ar y blaid ac wedi dweud y bydd yn sefyll yn annibynnol. Yn siarad â golwg360 mae’n mynnu na fydd yn rhannu’r bleidlais ‘aros’.
“Mae’r aelodau a chefnogwyr Democratiaid Rhyddfrydol yr ydw i wedi siarad â nhw i gyd wedi … bod yn gryf eu barn,” meddai.
“Os na fydd gyda nhw rhywun fel fi i bleidleisio amdano, fyddan nhw ddim yn pleidleisio. Felly fyddai pleidleisiau ddim yn cael eu rhannu. Fyddai dim byd i’w rhannu!”
Yn ogystal â phleidleisiau cefnogwyr ei hen blaid, mae’n gweld ei hun yn derbyn pleidleisiau “pobol Llafur a Cheidwadwyr sydd wedi’u dadrithio”.
Dyw’r ymgeisydd ddim yn medru dychmygu dychwelyd i’w hen blaid.
Plaid Cymru’n herio’r sedd
Yn etholiad cyffredinol 2017 mi safodd ym Mhontypridd gan ddod yn bedwerydd (â 1,963 pleidlais).
Fflur Elin fydd yn cynrychioli Plaid Cymru â’r pleidiau ‘aros’ yn yr etholaeth eleni, ac mi safodd hithau hefyd yno dwy flynedd yn ôl – Mi ddaeth yn drydydd â 4,102 pleidlais.
O ystyried canlyniadau’r etholiadau diwethaf, onid ond yn deg bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn camu o’r neilltu? “Nac ydy”, yw’r ateb gan Mike Powell.
“Mae’n etholiad hollol wahanol, ac mae’r cefndir iddo yn hollol wahanol,” meddai. “Dydyn ni ddim yn siarad am yr etholiad diwethaf. Rydym yn siarad am aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
“Mae’r nifer o aelodau newydd sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn Rhondda Cyno Taf hynod o uchel. Mae wir yn.
“Mae gennym broffil uwch a gwell, wrth ddadlau tros aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Ac mae llawer o bobol yn fy nabod i [am sefyll tros hynny].”