Mae nifer o enwau wedi’u crybwyll ar gyfer swydd Ysgrifennydd Cymru yn dilyn ymddiswyddiad Alun Cairns heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 6).

Dau sydd yn debygol o fod yn y ras – David T C Davies a Simon Hart.

Ar hyn o bryd, mae gan y Ceidwadwyr chwech Aelod Seneddol o Gymru yn San Steffan, ond fe allai hynny i gyd newid ar ôl yr etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12.

Mae Glyn Davies eisoes yn camu o’r neilltu, ac mae Stephen Crabb a David Jones wedi gwneud y swydd yn y gorffennol.

Os nad yw’r Ceidwadwyr am droi’n ôl at un ohonyn nhw, dim ond David TC Davies (Mynwy) a Simon Hart (Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro) o blith yr aelodau seneddol cyfredol sy’n weddill. Hynny yw, os yw Boris Johnson am ddewis Aelod o Gymru i wneud y gwaith. Dyw hynny byth yn sicrwydd.

Ond mae’n werth cadw llygad ar etholaeth Gŵyr, lle mae Tonia Antoniazzi, yr aelod seneddol Llafur, yn debygol o wynebu her sylweddol am ei sedd gan Francesca O’Brien – ond mae honno dan y lach hefyd yn dilyn sylwadau amheus am bobol sy’n derbyn budd-daliadau.

A’r cwestiwn mwyaf, o bosib: ai’r Ceidwadwyr fydd mewn grym yn San Steffan ar ôl Rhagfyr 12?