Mae Alun Cairns wedi gwneud “y penderfyniad cywir” i ymddiswyddo o fod yn Ysgrifennydd Cymru, yn ôl Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
Daw ei ymddiswyddiad ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod e’n ymwybodol o ran Ross England, ymgeisydd Cynulliad y blaid, wrth ddymchwel achos llys dyn oedd wedi’i gyhuddo o dreisio.
Er i Alun Cairns honni nad oedd e’n ymwybodol o’r achos ar yr adeg y cafodd ei enwebiad ei dderbyn, fe ddaeth i’r amlwg ei fod e’n gwybod ymhell cyn hynny, fis Awst y llynedd.
“Rwy’n flin o weld Alun yn ymddiswyddo heddiw o fod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru,” meddai. “Fodd bynnag, o dan yr amgylchiadau, hwn oedd y penderfyniad cywir iddo fe.
“Mae Alun, yn briodol, wedi dweud y bydd yn cydymffurfio’n llawn ag unrhyw ymchwiliad. Hoffwn ddiolch i Alun am ei wasanaeth i Gymru fel ein Hysgrifennydd Gwladol lle daeth â therfyn i dollau pontydd Hafren, a fydd yn waddol hirdymor i economi Cymru.”
Ymateb i’r achos
“Mae’r achos hwn wedi achosi sioc a syfrdan,” meddai Paul Davies wedyn.
“Rwy’n cydymdeimlo â’r unigolyn hwn ac i bawb sydd wedi dioddef treisio ac ymosodiad rhyw.
“Rwy’n disgwyl y safonau uchaf gan ymgeiswyr Ceidwadol ar gyfer Cynulliad Cymru; mae’r achos llys hwn yn awgrymu bod Ross England wedi syrthio’n brin o’r safonau hynny.”