Mae’r Blaid Werdd wedi lansio ei ymgyrch etholiadol gydag addewid i fenthyg mwy na £900bn dros y degawd nesaf er mwyn cael gwared o danwyddau ffosil yng ngwedydd Prydain.

Mae’r blaid yn bwriadu codi treth gorfforaeth o 5% i allu talu dyledion; adeiladu 100,000 o dai amgylcheddol gyfeillgar; a gwella trafnidiaeth.

“Mae rhai pethau yn fwy na Brexit. Mae’n rhaid i hwn fod yn etholiad amgylcheddol,” meddai Sian Berry, arweinydd y blaid.

Mae’r Gwyrddion yn bwriadu gwario £100 biliwn yn flwyddyn dros y degawd nesaf, a’i neges i bleidleiswyr yw: “Gallai hwn fod y cyfle olaf i ethol Llywodraeth sydd am ddelio â chynhesu byd eang.”