Gall Alun Cairns fod yn “falch” o’i record fel gwleidydd, meddai Boris Johnson wrth ymateb i ymddiswyddiad Ysgrifennydd Cymru.

Daw ei ymddiswyddiad ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod e’n ymwybodol o ran Ross England, ymgeisydd Cynulliad y Ceidwadwyr, mewn dymchwel achos llys dyn oedd wedi cael ei gyhuddo o dreisio.

Roedd wedi bod yn gwadu ei fod e’n ymwybodol o’r achos pan gyflwynodd Ross England ei enw, ond cafodd hynny ei wrthbrofi’n ddiweddarach.

Wrth gyflwyno’i ymddiswyddiad, dywedodd Alun Cairns y byddai’n “cydymffurfio” ag unrhyw ymchwiliad i’r achos.

‘Hynod ddiolchgar’

“Rwy’n hynod ddiolchgar am yr holl waith rydych chi wedi ei wneud yn eich rôl fel Ysgrifennydd Gwladol ers Mawrth 2016,” meddai Boris Johnson wrth ymateb i’w lythyr yn ymddiswyddo.

“Yn benodol, hoffwn gofnodi fy niolchgarwch am yr holl gefnogaeth rydych chi wedi ei rhoi i’r Llywodraeth hon wrth sicrhau ein bod yn anrhydeddu’r ymrwymiad i’r bobol ein bod ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“O gofio eich gwasanaeth hir yn Ysgrifennydd Gwladol, gallwch fod yn falch o’ch record yn cyflawni ar ran pobol Cymru, yn enwedig wrth sicrhau diddymu tollau pontydd Hafren.

“Mae hyn yn dilyn cyfnod hael o wasanaeth i’r blaid yng Nghymru gyda thros ddegawd yn Aelod Cynulliad tros Dde Cymru lle’r oeddech chi’n feirniad llafar o Lywodraeth Lafur Cymru.”