Fe fydd gorsaf radio Gymraeg newydd ar y we yn cael ei lansio’n swyddogol ddydd Sul, 1 Ionawr y flwyddyn nesaf, meddai’r sylfaenydd wrth Golwg360.

Y bwriad yw cynnal “diwrnod llawn o ddarlledu byw ar Radio’r Cymry ddydd Sul,” meddai Huw Marshall cynhyrchydd teledu gafodd y syniad o greu’r orsaf radio newydd yn y Gymraeg ar y we.

“Dw i’m yn gwybod yn iawn beth fydd yn digwydd ar y diwrnod cyntaf. Mae’n dibynnu pwy fydd yn sobr ac yn effro . Ond, dw i’n gobeithio bydd y diwrnod cyntaf yn ddiwrnod llawn o ddarlledu byw, dyna’r gobaith. Darlledu byw drwy’r dydd,” meddai.

Fe ddywedodd mai rhan o’r bwriad gyda’r orsaf newydd yw “rhoi sgiliau” i bobl mewn cymunedau i recordio rhaglenni eu hunain.  “Gobeithio gallwn ni roi hwb iddyn nhw falle i ddechrau gorsafoedd bach cymunedol ar y we,” meddai Huw Marshall.

“Dw i’n gwybod bod ‘na bobl sy’n trio gwneud pethau cymunedol ond yn darlledu mewn modd traddodiadol – mae’n grêt, mae lle i hynny. Ond, y broblem gyda stwff felly yw’r rheolau sy’n cyfyngu darlledu dros ardal benodol. Fedrwn ni wneud cynnwys cymunedol sy’n gallu mynd ar draws y byd”.

Cynnwys

“Ar hyn o bryd, mae darlledu yn y Gymraeg yn bodoli yn bennaf ar S4C ac ar Radio Cymru,” meddai. “Yn amlwg beth rydan ni eisiau gwneud yw llenwi bwlch sydd ddim yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd. Yn y pen draw, dw i’n ei weld o’n fwy o Radio 6 na Radio 2,” meddai.

Yr hyn sy’n bwysig yw bod yr orsaf newydd yn “cynnig rhywbeth sy’n apelio at bobl ifanc sy’n siarad Cymraeg o bob safon gan gynyddu cynulleidfaoedd,” meddai.

Ymhlith y syniadau am raglenni newydd yw syniad am greu rhaglen sy’n trafod ffydd.

“Mae’n gyfle i bobl drafod pynciau felly a thrafod gwleidyddiaeth. Ond, falle gwneud hynny mewn ffordd fwy agored,” meddai Huw Marshall cyn dweud mai “ymateb i ofynion pobl fydd yr orsaf newydd.

“Mae’n lle i bobl rannu syniadau a chael profiad a datblygu pethau. Ond, yr hyn sy’n bwysig ydi – wrth i ni fynd ymlaen fod yr iaith Gymraeg yn bodoli mewn cymaint o ffyrdd ac sy’n bosibl yn y wasg ac yn y cyfryngau. Gyda’r pwysau ariannol sydd ar S4C a BBC Cymru – yn hytrach na chwyno a phoeni, rydan ni’n gwneud rhywbeth positif.”

Cerddoriaeth

Yn ôl Huw Marshall, bydd modd clywed ystod eang o gerddoriaeth ar yr orsaf newydd er y bydd yr holl siarad yn Gymraeg.

“Dw i wedi bod yn siarad gyda phobl yn Iwerddon a Chernyw. Dw i’n gobeithio bydd elfen Geltaidd ryngwladol i’r rhaglen hefyd – a gofod ar gyfer cynnwys Gwyddelig a Chernyweg,” meddai.

“Chwarae cerddoriaeth o safon fyddan ni. Dw i’n rhagweld bydd y mwyafrif ohono yn y Gymraeg… ” meddai cyn pwysleisio mai sgwrsio yw prif ddiben yr orsaf.

Bydd cyfres o gyfarfodydd yn cael eu cynnal ledled Cymru yn y misoedd i ddilyn, lle caiff y cyhoedd ddod i wybod mwy am y fenter a rhannu syniadau.