Mae 20 o bobol ifanc o ogledd Cymru sy’n aelodau o Urdd Gobaith Cymru yn mynd ar daith i Batagonia yn yr Ariannin heddiw.
Pwrpas y daith yw cyflwyno’r bobol ifanc i fywyd Cymreig yr Archentwyr ym Mhatagonia.
Fe fydd y bobol ifanc yn gwneud gwaith gwirfoddol fel gwaith cynnal a chadw tu allan i’r capeli, cystadlu yn Eisteddfod y Wladfa a chynnal adran yn yr Ysgol Gymraeg.
Er mwyn mynd ar y daith roedd rhaid i’r bobol ifanc wneud cais yn egluro pam eu bod eisiau manteisio ar y cyfle, a chodi £2,000 yr un trwy weithgareddau lleol megis cyngherddau a theithiau cerdded.
Pobol ifanc
Y 20 person ifanc fydd yn mynd ar y daith yw Manon Elwyn Hughes, Bronwen Price a Gethin Griffiths o Ysgol Brynrefail, Llanrug ger Caernarfon; Sian Parry a Sioned Wyn Jones o Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn; Anest Evans, Manon Roberts, Ceri Lewis a Lora Thomas o Goleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli; Catrin Euron Lewis, Catrin Eilwen Davies a Beca Glyn o Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst; Bethany Juckes-Hughes a Steffan Rhys Hughes o Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy; Lois Morus o Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam; Nia Shaw, Erin Owain, Ifan Dafydd Jones, a Rhiannon Thomas a Catrin Donnelly o Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun.
‘Codi blys’
“Mae’r ffaith fod yr iaith Gymraeg yn bodoli mewn gwlad mor bell yn Ne America yn codi blys arnaf i fynd yno ac i gael y profiad o weld drosof fy hun pa mor wahanol yw hi yno i Gymru fach,” meddai Manon Elwyn Hughes o Fethel ger Caernarfon.
“Rwy’n hoff o ieithoedd felly mi fydd cymharu sut mae’r bobl o Batagonia’n siarad ein hiaith a sut mae’r iaith wedi datblygu yno o gymharu â ni yn ddiddorol iawn. Mae’n anhygoel fod iaith fechan, gyda dim ond 600,000 o bobl yn ei siarad yng Nghymru, i’w chlywed mewn cyfandir hollol wahanol ochr arall i’r byd.”
Dyma fydd y bedwaredd flwyddyn i’r Urdd a Mentrau Iaith Cymru gydweithio yn trefnu’r daith hon i Batagonia, gyda chymorth swyddogion y Fenter Iaith ym Mhatagonia.