Mae toriadau i gyllideb S4C a BBC Cymru wedi golygu bod cael gwared â swyddi yng  nghwmni teledu Boomerang yn “anochel”, yn ôl llefarydd ar ran y cwmni.

Dywedodd y llefarydd wrth Golwg 360 fod Boomerang  bellach wedi dechrau ymgynhori â staff ynglŷn â’r broses o wneud toriadau.

Cadarnhaodd y llefarydd fod “hyd at 20 o swyddi i gael eu colli”, ond y byddai’r swyddi hynny yn cael eu torri “ar draws y grŵp, sy’n golygu 10% o weithlu o 200.”

Yn ôl Boomerang, mae’n rhaid i’r newidiadau ddigwydd “yng nghyd-destun y toriadau i gyllidebau rhaglenni S4C a BBC Cymru, ac mae’r broses yn ymateb i hynny.”

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni hefyd fod y toriadau yn “anffodus” ond bod maint y toriadau yn gwneud y broses yn anochel.

Gobeithio am ragor o dwf
Lai na mis yn ol roedd Prif Weithredwr y grŵp wedi gwneud datganiad gobeithiol am ddyfodol y cwmni.

Wrth gyhoeddi ffigurau’r grŵp hyd at fis Mai 2011, fe ddywedodd Prif Weithredwr grŵp Boomerang Plus eu bod yn gobeithio gweld rhagor o dwf.

Roedden nhw wedi gwneud elw ar ôl treth o fwy na £1 miliwn – dwbl y flwyddyn gynt – ac, yn ôl Huw Eurig Davies, wedi dechrau’n gry’ hefyd.

Cefndir

Boomerang Plus yw un o grwpiau teledu mwya’ llwyddiannus Cymru ar ôl tyfu’n gyflym yn ystod y chwe blynedd diwetha’.

Roedd hynny’n cynnwys prynu cwmnïau annibynnol eraill, gan gynnwys Fflic, Alfresco, Apollo ac Indus a datblygu asiantaeth dalentau.

Yn 2005, roedd Boomerang yn un o’r cwmnïau a gafodd arian datblygu gan S4C a’r gobaith oedd y byddai hefyd yn datblygu busnes y tu allan i Gymru.

Bellach, mae’r BBC ac S4C yn torri’n ôl ar raglenni.