Mae disgwyl i gynlluniau gael eu cyflwyno i greu marina ar gyfer 450 o gychod yn Abergwaun yr wythnos hon.

Mae’r cynlluniau hir-ddisgwyliedig wedi cael eu cyflwyno i Gyngor Sir Benfro gan gwmni Conygar Investment ar y cyd â chwmni fferi Stena Line, a’r bwriad yw i greu marina ac angorfa  yn Wdig.

Mae arweinydd cyngor Sir Benfro, John Davies, wedi croesawu’r newyddion, gan ddweud fod datblygu  porthladd Abergwaun yn bwysig i ddyfodol economi gogledd Sir Benfro.

“Does dim amheuaeth bod angen datblygiad er mwyn sicrhau dyfodol y porthladd, ac i ddarparu a chynnal swyddi yn yr ardal.”

Dywedodd hefyd ei bod hi’n “galonogol yn yr adegau ariannol anodd yma” fod “cwmniau enfawr o’r math yma â digon o hyder yn Sir Benfro i ddod ymlaen â buddsoddiad o’r math yma.”

Denu gweithwyr ac ymwelwyr

Prif elfen y cynlluniau, yn ôl cwmni Conygar, yw creu marina  gyda lle i 450 o gychod, gyda gweithdai, siopau, ac adnoddau ychwanegol. Mae’r cynlluniau hefyd yn nodi’r posibilrwydd o greu 253 o fflatiau, a phlatfform 19 erw er mwyn creu estyniad posib i borthladd presennol Stena Line.

Byddai’r cynlluniau hefyd yn creu promenadau a man cerdded ar lan y dŵr i’r cyhoedd, a pharcio i ymwelwyr.

Mae cwmni Conygar wedi dweud y bydd y cynllun yn cynnig gwelliant mawr yn economi’r ardal, gan greu mwy o atyniadau i dwristiaid yn Abergwaun a chreu swyddi newydd, ac mae’r cwmni wedi amcangyfrif y bydd gwerth y datblygiad yn fwy na £100 miliwn.

Yn ôl Neil Jacobson, Pennaeth Gweithgarwch Arfordirol Cyngor Sir Benfro, byddai’r datblygiad yn golygu “manteision economaidd hirdymor i’r ardal, ar rydyn ni’n falch fod y cynnig cyffrous hwn wedi ei gynnig.”

Mae Prif Weithredwr cwmni Conygar, Robert Ware, wedi dweud eu bod nhw’n obeithiol y bydd y cynnig yn cael ei dderbyn, “ac yn derbyn y gefnogaeth y mae’n ei haeddu.”