Mae chwaraewyr pêl-droed tîm merched Cymru yn cael gwersi Cymraeg gan dîm o Gymry Cymraeg yn y brifddinas.
Gyda Chymru yn gobeithio ennill lle ym mhencampwriaeth Euro Menywod UEFA yn 2021, ers rhai wythnosau maen nhw wedi bod yn dysgu Cymraeg er mwyn closio fel carfan.
Hyd yma maen nhw wedi bod yn ddibynnol ar apiau ffôn a chymorth cydweithwyr Cymraeg eu hiaith, ond yr wythnos nesaf byddan nhw’n cael help gan dîm o Gaerdydd.
Bydd Titws Taf Cymric yn ymarfer â thîm Cymru ar fore dydd Mercher wrth iddyn nhw baratoi am eu gêm nesaf, ac yn y prynhawn bydd y Titws yn rhoi gwersi Cymraeg i’r tîm cenedlaethol.
Alys Williams, un o ysgrifenyddion y Titws, sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am drefnu’r sesiynau yma, ac mae hi’n methu aros.
“Rydym ni’n cynnal ein sesiynau [ymarfer Titws Taf] yn y Gymraeg,” meddai wrth golwg360. “Felly mae’n neis eu bod nhw moyn rhoi’r ymdrech i mewn i ddysgu’r iaith, a’n bod ni’n gallu helpu allan fel hynna.
“Byddan nhw’n gwneud yr un peth yn ôl â sgiliau pêl-droed. Dw i’n edrych ymlaen.”
Pwy yw’r Titws?
Mae’r tîm yn chwarae yng Nghynghrair Bêl-droed Amatur Menywod Caerdydd ac mae ganddyn nhw 40 aelod i gyd – gydag 20 yn dod i bob sesiwn ymarfer.
“Wnaethom ni ddechrau yn ôl ym mis Tachwedd, ac ers hynny mae cymaint o chwaraewyr newydd wedi mynd a dod,” meddai Alys Williams. “Ond rydym ni’n tyfu bob wythnos. Mae’n really braf.
“Reit ar ddechrau mis Tachwedd roedd bois yn synnu pan o’n i’n camu mewn i gôl. Ond erbyn hyn does dim stigma na dim byd rhagor.”