Mae rheolau UEFA yn “gwahaniaethu” yn erbyn merched ifanc o Gymru sydd eisiau chwarae “ar y lefel elît” i academïau clybiau mawr Lloegr, yn ôl y rheiny sydd wedi cael eu heffeithio.
Yn ôl rheolau Undeb Sefydliadau Pêl-droed Ewrop (UEFA) mae’n rhaid i chwaraewyr o Gymru fyw o fewn 50km i ffin Lloegr er mwyn medru chwarae i academïau clybiau fel Manchester City a Lerpwl.
Mae’n rhaid i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ac FA Lloegr gydymffurfio â’r rheolau yma, ac mae’n golygu bod yn rhaid i chwaraewyr o ogledd Cymru fyw i’r dwyrain o Abergele er mwyn bod yn gymwys i fedru chwarae i glwb mawr yn Lloegr.
“Sefyllfa anodd”
Mae golwg360 bellach wedi clywed gan deuluoedd tair merch sydd wedi gorfod rhoi’r gorau i chwarae i glybiau yn Lloegr, ac yn eu plith mae Elin Denham a’i merch, Ania, 12 o Fotwnnog.
Bu Ania Denham yn academi Manchester City am bum mlynedd cyn i’r rheolau gael eu gweithredu, gan ei gorfodi i roi’r gorau i chwarae i’r clwb.
Mae’r rheolau yn “gaeth iawn” yn ôl y fam, ac mae’n esbonio eu bod wedi bodoli ers 2009 ond dim ond wedi dechrau cael eu gweithredu yn ddiweddar – ar ôl cael eu hanwybyddu am flynyddoedd.
Dyw Elin Denham ddim eisiau codi stŵr yn erbyn y clwb am ei bod yn “ddiolchgar” am y profiadau y cafodd ei merch, ond mae hi yn rhwystredig am eu bod yn awr wedi’u gorfodi mewn i “sefyllfa anodd”.
“Mae’n gwahaniaethu,” meddai’r fam am y rheolau. “Os ydych chi’n byw’r ochr arall i Aberystwyth neu Abergele does ganddo chi mo’r cyfle i dorri mewn i’r proffesiwn yna – dim un clwb.
“Mae Ania wedi cael ei gorfodi yn awr i ddod yn ôl i glwb grassroots yng Nghaernarfon ar ôl pum tymor ym Manceinion. Mae wedi cael ei gorfod i ddod yn ôl.
“A dyma’r unig opsiwn iddi os ydy hi eisiau chwarae pêl-droed.”
“Roedd o’n rhywbeth mawr iddi”
Bu Elan Evans,11, yn chwarae i academi clwb Lerpwl am bum mis, ond gan ei bod yn dod o Gaernarfon mae wedi gorfod gadael yr academi.
Mae ei chwaer fawr, Elain Evans, yn rhannu’r un rhwystredigaethau ag Elin Dunham ac yn dweud nad oes “cyfleoedd o gwmpas” i’w chwaer fach yn y gogledd.
“Does dim byd o gwmpas lle rydan ni’n byw – gogledd Cymru – a fyddai’n rhoi’r cyfle iddi hi allu chwarae ar y lefel elît,” meddai Elain Evans.
“Dw i’n teimlo ei fod yn discriminate-io yn ei herbyn hi o ran lle mae’n byw. Ac mae’n ei stopio rhag datblygu ymhellach pan mae o ynddi hi i wneud, ond mae’n cael ei stopio rhag gwneud…
“Roedd o’n rhywbeth mawr iddi hi – cael chwarae i dîm mor fawr. Mae jest wedi mynd yn ôl i chwarae i Gaernarfon rŵan. Does dim opsiynau eraill iddi hi a dweud y gwir.
“Mae wedi gorfod mynd yn ôl i chwarae i Gaernarfon, er dim hynna ydy’r safon mae hi i fod ar. Mae hi i fod i chwarae ar y top level – Lerpwl a ballu.”
“Ofn trwy’u pen olau”
Mae Bethan Wynne a’i merch Angharad, 11, yn byw ym Mhen-y-groes, Gwynedd, a hefyd wedi profi sefyllfa debyg am eu bod yn byw yn rhy bell i’r gorllewin o Glawdd Offa.
Roedd y ferch wedi ei gwadd i fynd am dreialon gyda chlwb Manchester City, ond methodd â gwneud hynny oherwydd y rheolau.
Mae Bethan Wynne yn esbonio mai trafferth â chlwb Chelsea wnaeth ysgogi’r clybiau i ddechrau talu sylw i’r rheolau – mae’r rheolau yn effeithio bechgyn hefyd, ond heb gael eu hanwybyddu i’r un graddau.
“Mae’r clybiau yma’n ofn trwy’u pen olau – o gael eu dal, hynny yw,” meddai. “Felly maen nhw’n gorfod mynd trwy’r registrations â chrib manwl. Ac o ganlyniad maen nhw’n troi pobol o yna.”
Mae golwg360 wedi gofyn i UEFA a Chymdeithas Bêl-droed Cymru am ymateb.