Mae gan y Brexit Party “siawns da iawn” o ennill seddi yng Nghymru, yn ôl ei hymgeisydd ym Mlaenau Gwent.
Yn wreiddiol o Lanelli, mae Richard Taylor bellach wedi treulio rhyw 25 blynedd yn byw yn yr etholaeth, ac erbyn hyn mae’n teimlo bod pobol yn ei nabod yn “eitha’ da yn gymuned”.
Mae ganddo “hyder tawel” am ei obeithion yntau yn yr etholiad cyffredinol, ac mae’n credu gall ei blaid gipio seddi ledled y wlad.
“Dw i’n credu’n gryf – a dydw i erioed wedi bod mor ffyddiog – bod gennym gyfle da iawn o ennill seddi yng Nghymru,” meddai wrth golwg360. “Cant y cant. Dw i’n sicr o hynny.
“Roedd pobol yn arfer dweud: ‘Mae pobol wastad yn pleidleisio Llafur. Allwch chi gael asyn â rhoséd a fyddai pobol yn pleidleisio amdanyn nhw.’
“Ond mae’r naratif yna’n newid. Mae pobol yn gweld trwy hynny yn awr.”
Mae Plaid Brexit wedi cadarnhau dau ymgeisydd arall yng Nghymru – James Wells yn Islwyn, a David Thomas yn Nhorfaen – ac mae’r wefan hon yn deall y bydd cyhoeddiad am ragor ar dydd Llun.
Pobol wedi’u “hanghofio”
Yn ôl yr ymgeisydd, mae pobol yn teimlo’n “grac” ynghylch yr oedi â Brexit – roedd disgwyl iddo ddigwydd heddiw – ac maen nhw hefyd yn teimlo eu bod wedi’u “hanghofio”.
“Maen nhw’n teimlo bod gwleidyddion ddim yn poeni am bobol gyffredin dosbarth gweithiol mwyach,” meddai.
“Ac maen nhw’n teimlo bod y Blaid Lafur ddim yn cynrychioli pobol dosbarth gweithiol fel yr oedden nhw’n arfer gwneud – boed yn lleol neu yn San Steffan.
“Mae pobol wedi cael llond bol o Lafur yn dweud y byddan nhw’n buddsoddi yn y Cymoedd, a dydyn nhw ddim yn gweld hynny. Oll maen nhw’n ei weld ydy arian yn mynd i lawr i Gaerdydd yn y Bae.”
Yr ymgeisydd a’i etholaeth
Ers symud i Flaenau Gwent yn 1993 mae Richard Taylor wedi byw yn Abertyleri, Tredegar a’r Blaenau, ac mae wedi rheoli sawl tîm pêl-droed yn yr ardal.
Mae hefyd yn ddyn busnes hunan-gyflogedig ac yn berchen ar gwmni sy’n cludo nwyddau ledled Blaenau Gwent.
O bob etholaeth yng Nghymru, Blaenau Gwent oedd mwyaf brwd o blaid gadael yn refferendwm 2016 – roedd 62% o’r etholaeth o’i blaid.