Dylai John Bercow gael ei wneud yn archesgob, neu dderbyn lle yn Nhŷ’r Arglwyddi, meddai Aelodau Seneddol.

Mae’r Llefarydd wedi bod yn derbyn teyrngedau yn Nhŷ’r Cyffredin ar ei ddiwrnod olaf yn y swydd, gydag Aelodau Seneddol yn galw iddo gael cyfle newydd i serennu ym mywyd cyhoeddus.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol Michael Fabricant y dylai John Bercow gael y teitl o Archesgob Lichfield yn ei ymddeoliad.

Tra bod yr Aelod Seneddol Llafur Barry Sheerman yn dweud y byddai’n “sarhad llwyr i’r Tŷ hwn” pe na fyddai John Bercow yn cael lle yn Nhŷ’r Arglwyddi.