Mae “llawer” o Aelodau Seneddol yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’r pwysau sy’n dod â’r swydd, yn ôl cynrychiolydd Sir Drefaldwyn.
Bellach mae dros 40 cynrychiolydd – gan gynnwys rhyw hanner dwsin o Gymru – wedi datgan na fyddan nhw’n sefyll yn yr etholiad cyffredinol, ac yn eu plith mae Glyn Davies.
Thema sydd yn cysylltu llawer o’r rhain yw’r atgasedd maen nhw wedi eu profi yn y swydd, a dyw Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn, meddai, ddim yn eithriad.
Wrth ystyried yr ymadawiadau yma, mae’n myfyrio ar y straen mae ein cynrychiolwyr yn wynebu.
“Dw i ddim yn credu bod llawer o bobol yn sylweddoli faint o bwysau sydd yna ar fod yn Aelod Seneddol,” meddai wrth golwg360. “Mae’n swydd eithaf anodd.
“Does byth gennych chi amser rhydd. Mae’n swydd sydd yn dod â phwysau. Ac mae yna gyfyngiad ar ba mor hir y gallwch wneud y swydd. Dw i wedi bod ynghlwm â bywyd cyhoeddus am 45 blynedd.
“A dw i’n ei fwynhau, a dw i’n dwlu arno. Dyw e ddim yn fy effeithio i. Ond mae’n cael effaith ar lawer o bobol.”
“Agweddau ymosodol”
Mae’n dweud bod eich gallu i ymdopi yn “dibynnu ar eich natur” ac mae’n dweud y budd iddo gyfarwyddo ag “agweddau ymosodol” ymhell cyn mynd i San Steffan trwy ei brofiadau â rygbi.
Ym marn y Ceidwadwr roedd 1997 yn gyfnod gwaeth o ran atgasedd cyhoeddus, ac mae’n teimlo bod cyfryngau cymdeithasol yn gwneud i bethau “ymddangos lawer gwaeth” yn yr oes sydd ohoni.
Awydd i gefnogi ei “olynydd gwych”, Craig Williams, a phryderon am ei iechyd, oedd wrth wraidd ei benderfyniadau i gamu i lawr, meddai.
Cynrychiolwyr Cymry
Ymhlith yr Aelodau Seneddol Cymreig eraill sydd wedi dweud eu bod am gamu i lawr mae Ann Clwyd, Albert Owen, Owen Smith ac Ian Lucas.
Mae Guto Bebb wedi dweud y bydd yn camu i lawr dan amodau penodol, ac mae David Jones wedi newid ei feddwl ar ôl dweud yn wreiddiol na fyddai’n sefyll eto.
Er ei fod bellach yn holliach dyw Glyn Davies ddim yn mynd i newid ei feddwl fel ei gyd-Geidwadwr, ac mae’n dweud bod “dim troi yn ôl”.