Mae Heddlu De Cmru wedi cyhuddo dyn 22 oed o lofruddio Lauren Griffiths yn Cathays, Caerdydd ddiwedd Ebrill eleni.

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff y ddynes ifanc o Groesoswallt mewn fflat yn Stryd Glynrhondda tua 6.30yh ar Ebrill 30.

Mae Madog Llewellyn Rowlands, 22, o Wrecsam, wedi’i gyhuddo o lofruddio ac mae wedi’i gadw yn y ddalfa.

Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron ynadon Caerdydd heddiw (dydd Iau, Hydref 31).

“Mae heddiw yn ddatblygiad sylweddol yn ein hymchwiliad chwe mis i farwolaeth Lauren,” meddai llefarydd ar ran yr  heddlu.

“Ond er bod unigolyn wedi’i gyhuddo, mae’r ymchwiliad yn parhau.”