Mae maes arbennig lle gall pobol ddewis eu pwmpenni ar gyfer noson Calan Gaeaf, wedi bod mor llwyddiannus eleni eu bod wedi achosi tagfeydd traffig ar yr A48 ger Caerdydd.
Mae’r Pumpkin Picking Patch yn Sain Niclas Bro Morgannwg, rhyw ddwy filltir o’r briffddinas, ac mae wedi bod yn denu’r miloedd.
“Dyma’r tro cyntaf i ni wneud hyn yng Nghaerdydd; roedd gyda ni ddau safle yn ne Lloegr y llynedd, ac roedden nhw’n llwyddiannus iawn,” meddai Edward Kinder, perchennog y safle, wrth golwg60.
“Mae gyda ni ddeuddeg acer yn y safle yng Nghaerdydd, a phlannon ni rhwng 40,000 ac 80,000 o bwmpenni, ac mae gyda ni 32 o wahanol fathau ohonyn nhw.
“Mae plant wedi bod wrth eu boddau, ar wahân i’r ffaith ei bod hi fymryn yn oer, ond unwaith mae’r haul mas, mae’r plant wrthi’n dyfal yn casglu pwmpenni mewn whilberi.
“Mae gyda ni de a choffi a bwyd poeth, a phabell crefftau lle gall pobol greu gwe pry copyn neu addurno hudlath neu ysgubell. Rydyn ni’n gobeithio ehangu y flwyddyn nesa ac ychwanegu rhagor o bethau.
“Mae rhai pobol yn dweud taw Calan Gaeaf yw’r ŵyl sy’n tyfu gyflymaf ar wahân i’r Nadolig. Mae’n tyfu o hyd.”