Mae tîm o ymchwilwyr, sy’n cynnwys academydd o Brifysgol Aberystwyth, yn honni eu bod wedi profi’r dybiaeth bod dynion yn fwy doniol na menywod.

Fe waneth y Seicolegydd Esblygiadol Dr Gil Greengross, o Brifysgol Aberystwyth, a’r Athro Paul Silvia a Dr Emily Nusbaum, o Brifysgol Gogledd Carolina Greensboro, gynnal yr adolygiad systematig cyntaf erioed sy’n cymharu gallu dynion a menywod i gynhyrchu hiwmor.

Daethant i’r casgliad bod dynion ar y cyfan yn fwy doniol na menywod.

Fel rhan o’r astudiaeth cafodd gallu hiwmor dynion a menywod ei werthuso’n wrthrychol.

Er enghraifft, darparwyd cartŵn a gofynnwyd i ddynion a menywod ysgrifennu pennawd doniol i gyd-fynd ag ef.

Cafodd y capsiynau eu graddio am eu doniolwch gan bobol oedd ddim yn gwybod rhyw y person a ysgrifennodd y pennawd.

Fe wnaeth yr ymchwilwyr ganfod bod 63% o ddynion yn sgorio’n uwch na gallu hiwmor cymedrig menywod, ac felly fod dynion, ar y cyfan, yn fwy doniol na menywod.

“Mae hyn yn golygu, hyd eithaf ein gwybodaeth, ar gyfartaledd, ei bod yn ymddangos bod gan ddynion allu cynhyrchu hiwmor uwch na menywod,” meddai Gil Greengross.

“Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod hiwmor yn chwarae rhan fawr wrth chwilio am gymar, a bod sail esblygiadol gref i hynny.

“Mae cysylltiad cryf rhwng hiwmor â deallusrwydd, sy’n esbonio pam bod menywod yn gwerthfawrogi dynion â synnwyr digrifwch gwych, gan fod deallusrwydd wedi bod yn hanfodol ar gyfer goroesi trwy gydol ein hanes esblygiadol,

“Mae’n well gan ddynion, ar y llaw arall, fenywod sy’n chwerthin ar eu hiwmor. Mae hynny’n golygu, dros ein hanes esblygiadol, ei bod yn debygol fod dynion wedi gorfod cystadlu’n galetach â dynion eraill i greu argraff ar fenywod â’u synnwyr digrifwch.”

Mae eu hymchwil wedi ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn Journal of Research in Personality.