Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth gwraig o Bontypridd yn apelio am wybodaeth ynglŷn â thri unigolyn.
Bu farw Sarah Hassall o ardal Chelmsford, Essex, yn sgil digwyddiad mewn ty yn Llys Graig y Wion, Pontypridd, ar Hydref 6.
Mae Heddlu De Cymru wedi rhyddhau delweddau camerâu cylch cyfyng (CCTV) o’r unigolion y maen nhw’n awyddus i ddod i gysylltiad â nhw.
Mae’r delweddau yn dangos y tri mewn maes parcio ar Heol Sardis yn ystod amseroedd allweddol ar Hydref 6.
Yn ôl yr heddlu, mae lle i gredu bod gan y tri wybodaeth a allai fod o fudd i’r ymchwiliad.
Mae dyn, 37, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Sarah Hassall.