Mae gyrrwr lori wedi ymddangos yn y llys heddiw (Dydd Llun, Hydref 28) ar gyhuddiad o ddynladdiad 39 o bobol a gafodd eu darganfod yn farw yng nghefn lori yn Essex.

Fe ymddangosodd Maurice Robinson, 25, drwy gyswllt fideo yn y llys yn Chelmsford a’i gadw yn y ddalfa.

Cafodd ei gyhuddo o 39 achos o ddynladdiad, cynllwynio i fasnachu pobol, cynllwynio  i gynorthwyo mewnfudo anghyfreithlon, a thwyll ariannol.

Fe fydd yn ymddangos yn yr Old Bailey ar Dachwedd 25 er mwyn cyflwyno ple.

Cafodd Maurice Robinson, sy’n dod o Ogledd Iwerddon, ei arestio yn fuan wedi i gyrff wyth menyw a 31 dyn gael eu darganfod mewn lori mewn parc diwydiannol yn Grays ar Hydref 23.

Mae tri pherson arall sydd wedi eu harestio mewn cysylltiad â’r marwolaethau yn parhau i gael eu cadw yn y ddalfa.