Mae cwmni Opera Cenedlaethol Cymru wedi penodi’r ddynes gyntaf yn hanes y cwmni i ymgymryd â rôl y Cadeirydd.

Bydd Yvette Vaughan Jones, sydd a “phrofiad helaeth” o weithio yn y celfyddydau yng ngwledydd Prydain ac yn rhyngwladol, yn ymuno a phum aelod newydd i Fwrdd Cyfarwyddwyr y cwmni.

Mae Yvette Vaughan Jones wedi gweithio i sefydliadau celfyddydau annibynnol, Cyngor Celfyddydau Cymru – lle sefydlodd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru – awdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru.

Bydd yn camu’n ôl o’i swydd bresennol fel Prif Weithredwr Visiting Arts, a bydd yn rhoi gorau i’w swydd fel Cadeirydd No Fit State Circus ym mis Rhagfyr.

“Adlewyrchu diddordebau gwahanol”

“Rwyf wrth fy modd â’r cyfle i ymgymryd â swydd Cadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru ar yr adeg hon ac rwy’n ymwybodol iawn o amlygrwydd y Cadeiryddion blaenorol sydd wedi gwneud gwaith mor wych,” meddai Yvette Vaughan Jones.

Ychwanegodd: “Credaf y bydd rhaid i sefydliadau cenedlaethol fod yn wahanol iawn yn y 21ain ganrif.  Mae angen cynyddol i ddangos sut mae’r cwmnïau cenedlaethol yn adlewyrchu diddordebau gwahanol iawn pobol Cymru a Lloegr o Ynys Môn i Drelái.

“Mae WNO wedi bod yn ffagl o ansawdd a rhagoriaeth yn y byd opera a cherddoriaeth ers blynyddoedd, a’r her nawr yw dangos sut mae’r golau o’r ffagl honno nid yn unig yn disgleirio yn y trefi a’r pentrefi llai ledled Cymru ond hefyd sut mae’n goleuo’r dyheadau a’r diddordebau, gan roi llais, trwy opera i lawer mwy o bobol.”

Cafodd pum aelod newydd hefyd eu penodi i Fwrdd Cyfarwyddwyr Opera Cenedlaethol Cymru – bydd hyn yn “cryfhau’r bwrdd mewn meysydd allweddol” gan gynnwys llywodraethu, cyllid, amrywiaeth, y Gymraeg ac addysg uwch.  Mae’r penodiadau hyn yn mynd ag aelodaeth y Bwrdd i 13 aelod.

Ymhlith yr enwau newydd y mae Manon Edwards Ahir, Lynne Berry, Aileen Richards, Chitra Bharucha a Nicola Amery.