Mae drama deledu newydd Channel 4 a gafodd ei ffilmio yng Nghymru ac sy’n cynnwys cymeriadau Cymreig, wedi cael ei lambastio gan wylwyr teledu.
Mae’r sianel wedi gwario tipyn ar hyrwyddo The Accident sy’n ddrama griti am ddamwain sy’n arwain at ladd plant, ac yn sy’n adleisio’r hyn ddigwyddodd yn Aberfan a Grenfell.
Cafodd pennod gynta’r ddrama deledu ei dangos neithiwr ac mae’r ymateb gan y cyhoedd wedi bod yn ddi-flewyn-ar-dafod.
Mae’r rhaglen wedi ei ysbrydoli gan drasiedi Tŵr Grenfell lle bu farw 72 o bobl mewn tân.
Mae hefyd wedi ei seilio’n llac ar drychineb Aberfan 1966, lle fu farw 116 o blant a 28 o oedolion y pentref.
Dyma flas o’r negeseuon ar wefan trydar am y rhaglen:
Shocking acting crap storyline and the rescue guys wouldn’t be using those tools after a gas explosion it’s like a poor man’s Chernobyl #TheAccident
— Anth C (@anthceee) October 24, 2019
#TheAccident 15 mins in and looks like @Channel4 have done everything they can to combine Skins, Happy Valley & Casualty into one show with the dodgiest South Walian accents
— Tomos Williams (@TomosWilliams1) October 24, 2019