Mae Urdd Gobaith Cymru bellach wedi dechrau ar y gwaith o uwchraddio eu gwersylloedd yn Llangrannog ac yng Nglan-llyn.

Yn sgil buddsoddiad £6.5m bydd canolfan aelodau hyn a chanolfan chwaraeon dŵr yn cael eu hadeiladu yn y gwersyll gogleddol, a bydd eu safle yng Ngheredigion yn cael ei foderneiddio.

Llywodraeth Cymru, Cronfa Loteri Fawr Cymru a’r Urdd sydd wedi ariannu’r prosiect, ac mae disgwyl i’r gwaith barhau am dros flwyddyn a hanner.

“Dyma ddechrau ar brosiect sylweddol a phwysig i’r Urdd…” meddai Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, Siân Lewis.

“Bydd hyn yn adeiladu ar y profiad unigryw a chyfleoedd oes sy’n cael eu cynnig i’r rhai sy’n mynychu ein gwersylloedd.”

Y Glan-llyn arall

Fel rhan o’r gwaith mi fydd yr hen dŷ carreg, Glan-llyn Isa’, hefyd yn cael ei ddatblygu.

Mae’r adeilad tua chwarter milltir o brif safle Gwersyll Glan-llyn, a bu’n gartref i benaethiaid y gwersyll hwnnw dros y blynyddoedd.

Mi fydd yn cael ei adnewyddu a’i ehangu i gynnig llety ac adnoddau dysgu wedi eu hanelu’n bennaf at bobl ifanc dros 16 oed.