O wleidyddion i sêr y byd pêl-droed, mae negeseuon di-ri ar y cyfryngau cymdeithasol wrth i dîm rygbi Cymru herio De Affrica yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd yn Japan heddiw.
Pe baen nhw’n ennill, bydden nhw’n cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth am y tro cyntaf erioed, gan fynd gam ymhellach nag y gwnaethon nhw yn 1987, y gystadleuaeth gyntaf erioed.
Bydden nhw’n herio Lloegr yn y rownd derfynol yr wythnos nesaf.
Negeseuon
Daw’r neges hon gan Aaron Ramsey, un o sêr y bêl gron.
Pob lwc bore ma bechgyn yn y semi final🏴 We are right behind you💪🏼 Let’s go boys @WelshRugbyUnion #RWC2019
— Aaron Ramsey (@aaronramsey) October 27, 2019
Dyma air o anogaeth gan gorff Chwaraeon Cymru.
Pob lwc bore ma bechgyn yn y semi final🏴 We are right behind you💪🏼 Let’s go boys @WelshRugbyUnion #RWC2019
— Aaron Ramsey (@aaronramsey) October 27, 2019
Ac mae un o’r sefydliadau cenedlaethol wedi anfon gair o gefnogaeth i Japan.
🏴 Eitem ychwanegol i’r cyfarfod llawn ar gais @yllywydd.
Ifan Price sy’n dymuno pob lwc i Gymru bore fory yn rownd gynderfynol Cwpan Rygbi’r Byd. Amdani! ❤️ pic.twitter.com/Ghuz2HCbnk— Senedd Ieuenctid Cymru (@SeneddIeuenctid) October 26, 2019
Dyma neges gan Elin Jones, Llywydd y Cynulliad:
We’re flying 4 Welsh dragons outside the Senedd. Guess why?!#poblwccymru
Pedair draig goch! 🏴🏴🏴🏴 pic.twitter.com/OKmuHcXVzt— Y Llywydd (@yLlywydd) October 25, 2019
Ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi anfon neges hefyd:
We’re all proud of how far they have come in the competition. Good luck this morning! pic.twitter.com/c5cHg0A8fc
— Welsh Conservatives (@WelshConserv) October 27, 2019
Dyma neges gan Mark Drakeford, prif weinidog Cymru:
Diwrnod enfawr i Gymru heddiw – @WelshRugbyUnion wedi dangos sgiliau ac angerdd tra’n brwydro i gyrraedd rownd derfynol #RWC19. Cyfle i greu hanes a bod y tîm Cymru cyntaf i gyrraedd y ffeinal!#CmonCymru – ewch am dani! ! 🏴🏆https://t.co/ExhEZC0Byq
— Mark Drakeford (@fmwales) October 27, 2019