Mae tîm rygbi Cymru’n herio De Affrica fore heddiw (dydd Sul, Hydref 27) am le yn rownd derfynol Cwpan y Byd yn erbyn Lloegr.
De Affrica fu’n fuddugol mewn 28 allan o 35 o’r gemau rhwng y ddwy wlad, ond mae buddugoliaethau Cymru’n cynnwys pedair gêm ers colli yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd 2015.
Er mai Cymru yw pencampwyr y Chwe Gwlad ac er iddyn nhw gyrraedd safle rhif un yn y byd, De Affrica yw’r ffefrynnau o dipyn o beth.
Crafu buddugoliaeth o 20-19 wnaethon nhw yn erbyn Ffrainc.
Ar y llaw arall, dim ond unwaith mae De Affrica wedi colli yn eu deg gêm diwethaf, a hynny o 23-13 yn erbyn Seland Newydd yn ystod y gystadleuaeth hon.
Serch hynny, pum pwynt yn unig o wahaniaeth sydd yna rhwng cyfanswm pwyntiau’r ddau dîm yn eu gemau yn erbyn ei gilydd yng Nghwpan y Byd.
Bydd y mewnwr Gareth Davies yn ennill cap rhif 50.
Gêm olaf Warren Gatland?
Pe bai Cymru’n colli, hon fydd gêm olaf y prif hyfforddwr Warren Gatland wrth y llyw.
Ond ennill, a byddai’n gadael y swydd y bu ynddi ers deuddeg mlynedd fel y prif hyfforddwr mwyaf llwyddiannus yn hanes Cymru.
Ond dydy’r pwysau hynny’n poeni dim arno fe ar drothwy’r gêm fawr.
“Y peth braf am fod allan yn fan hyn yw eich bod chi mewn rhyw fath o swigen heb weld llawer o’r stwff allanol,” meddai.
“Mae’n ein corddi ni pan fo pobol yn ein wfftio ni.
“Os ydyn nhw’n parhau i wneud hynny dros y dyddiau nesaf, yna byddai’n wych.
“Alla i ddim deall pam fyddai pobol yn ein wfftio ni pan fo’n record ni yn erbyn De Affrica wedi bod yn eithaf da yn y pedair neu bum mlynedd diwethaf.
“Mae hynny’n adrodd cyfrolau.”
Aaron Wainwright
Un chwaraewr sydd wedi disgleirio yn ystod y gystadleuaeth yw Aaron Wainwright.
Ac yntau’n gyn-chwaraewr canol cae yn Academi Clwb Pêl-droed Caerdydd, dim ond pedair blynedd yn ôl dechreuodd e chwarae rygbi ar ôl gwrthod ysgoloriaeth y bêl gron i chwarae i Gasnewydd.
Fe ddaeth yr ysgoloriaeth honno ar ôl iddo fethu â sicrhau cytundeb gyda Chaerdydd.
Ac yntau’n paratoi i chwarae ar un o lwyfannau mwya’r byd heddiw, fe fydd yr atgofion o gael ei “guro gan ddynion mawr” wrth chwarae i dîm Met Caerdydd a bod hyd at ei “ben-gliniau mewn mwd” yn atgofion pell i’r blaenasgellwr.
Mae’n sylweddoli pwysigrwydd y clybiau lleol yn ei ddatblygiad, ac yn dal i hyfforddi timau Whiteheads yng Nghasnewydd.
Y timau
Cymru: Halfpenny; North, J Davies, Parkes, Adams; Biggar, G Davies; Wyn Jones, Owens, Francis, Ball, Alun Wyn Jones (capten), Wainwright, Tipuric, Moriarty.
Eilyddion: Dee, R Carre, D Lewis, Beard, Shingler, T Williams, Patchell, Watkin.
De Affrica: Le Roux; Nkosi, Am, De Allende, Mapimpi; Pollard, De Klerk; Mtawarira, Mbonambi, Malherbe, Etzebeth, De Jager, Kolisi (capten), Du Toit, Vermeulen.
Eilyddion: Marx, Kitschoff, Koch, Snyman, Mostert, Louw, H Jantjies, Steyn.