Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn gwadu ei fod yn cefnogi Caerdydd – wrth i’r ddau dîm baratoi i herio’i gilydd yn Stadiwm Liberty heddiw (dydd Sul, Hydref 27).

Dyma’r cyfarfod cyntaf rhwng y ddau dîm ers 2014, ac fe fu cryn dipyn o sôn ers iddo gael ei benodi ar ddechrau’r tymor fod rheolwr yr Elyrch a’i deulu – gan gynnwys ei dad, y cyn-ddyfarnwr Keith Cooper – yn cefnogi’r Adar Gleision.

“Pe bai gen i gysylltiad go iawn â Chaerdydd, byddwn i’n dweud hynny,” meddai Steve Cooper wrth amddiffyn ei hun ar drothwy’r gêm ddarbi yr wythnos hon.

“Dw i ddim yn gelwyddgi, a dw i’n sicr ddim yn mynd i ddweud celwydd wrth gefnogwyr Abertawe.

“Ond does dim cysylltiad – dim un owns o gysylltiad, o atgofion, o gysylltiad iddyn nhw, dim byd.”

Cael ei fagu mewn ardal rygbi

Ac yntau’n enedigol o Bontypridd, mae’n dweud mai ardal rygbi oedd hi pan oedd e’n tyfu i fyny yn y 1980au – a bod hynny’n dal yn wir hyd heddiw.

Mae’n dweud nad oes ganddo fe atgofion o ddilyn rygbi na phêl-droed yn blentyn, ac nad oedd ei ffrindiau’n cefnogi Abertawe na Chaerdydd ar y cyfan.

“Dw i’n credu mai Lerpwl, Man U ac Everton oedd [y timau mawr] yn y dyddiau hynny. Dyna ein tri phrif glwb.

“Alla i ddim cofio neb yn cefnogi Caerdydd nac Abertawe bryd hynny, gadewch i ni gael hynny’n glir.

“Dw i’n sicr yn dod o ardal rygbi, ond do’n i ddim wir yn hoffi rygbi chwaith.

“Dw i’n dod o Bontypridd, roedd yr ysgol yn un rygbi a doedd gyda ni ddim tîm pêl-droed.

“Ro’n i ar y cyrion mewn nifer o ffyrdd, mewn gwirionedd.

“Am wn i, gan fod Dad yn y byd pêl-droed, dyna’r peth naturiol i fi ei wneud.

“Ond fe wnes i adael gartre’ yn 16 oed a symud i’r gogledd.”

Herio Neil Warnock

Wrth drafod ei wrthwynebydd ar ymyl y cae, mae’n dweud mai’r gêm ddydd Sul fydd ei un gyntaf yn erbyn Neil Warnock, rheolwr Caerdydd.

Yn wir, dydy’r ddau ddim wedi cyfarfod wyneb yn wyneb o’r blaen ond mae’n dweud nad yw’n ei ofni.

“Ro’n i’n amlwg yn ymwybodol iawn ohono fe a’r amser mae e wedi’i dreulio yn y gamp.

“Rhaid ei gydnabod e. Dw i wedi bod yn rheolwr ers tri mis, ac mae e wedi bod yn ei wneud e ers degawdau.”