Mae parti arbennig yn cael ei gynnal yng nghanolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin heddiw (dydd Gwener, Hydref 25) er mwyn dathlu blwyddyn gron ers agoriad swyddogol y lle.

Mae’r ganolfan yn gartref i bencadlys S4C – a benderfynodd symud trwch ei staff o’i hen gartref yng Nghaerdydd draw i’r gorllewin.

Bu’r penderfyniad yn un dadleuol ar y pryd, ac fe wnaeth y sianel addo y byddai talu costau teithio’r staff sy’n gorfod cymudo o Gaerdydd i Gaerfyrddin, a hynny am gyfnod o hyd at flwyddyn.

Mae gan S4C bron i 60 aelod o staff yn gweithio yn ei phencadlys newydd, sydd wedi ei lleoli ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Symud o Gaerdydd – “penderfyniad dewr”

“Roedd adleoli pencadlys S4C o Gaerdydd i Gaerfyrddin yn benderfyniad dewr i’r sianel, ond wedi blwyddyn yn Yr Egin, rydym yn hyderus ein bod yn awr yn arwain y ffordd i sefydliadau eraill sylweddoli fod modd gweithredu pencadlys cenedlaethol y tu allan i’r brifddinas,” meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C.

“Mae 58 o staff yn gweithio i S4C yng Nghanolfan S4C Yr Egin erbyn hyn, llawer ohonyn nhw’n staff newydd sy’n byw’n lleol ac sydd wedi bachu ar y cyfle i ddatblygu eu gyrfa o fewn y cyfryngau yn y gorllewin.

“Rydym hefyd wedi lansio cynllun prentisiaid yn y gorllewin sy’n rhoi cyfle i bobol ifanc ardal Caerfyrddin brofi agweddau gwahanol o weithio i S4C ac o fewn y diwydiannau creadigol.

“Mae ein pencadlys yn parhau i ddatblygu ac mae’n braf iawn gweld bwrlwm a thalentau lleol yn serennu yn ein canolfan yng Nghaerfyrddin.”

Busnesau eraill

Yn ogystal â phencadlys S4C, mae’r Egin yn gartref i ganolfan ddeori busnes, sef Hwb Menter, a 13 o gwmnïau annibynnol sy’n gweithio o fewn y diwydiannau creadigol.

Mae’r cwmnïau hynny yn cynnwys Boom, Gorilla, Atebol, Big Learning Company, Captain Jac, Asset Finance Solutions, Carlam, Highly, Lens 360, Moilin, Optimwm, Orchard a Thrywydd.

Mae’r ganolfan hefyd yn lleoliad ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau, fel nosweithiau ffilmiau Cymraeg, sioeau byw a gweithdai ysgolion.