Mae cyn-Faer Caerfyrddin wedi wfftio’r syniad y gallai byncar niwclear o dan y dref gael ei droi’n atyniad i ymwelwyr.
Cafodd y ganolfan argyfwng ei hadeiladu yn yr 1980au wrth i’r Rhyfel Oer gyrraedd ei anterth, a phe bai’r bomiau niwclear wedi dechrau glanio byddai wedi bod yn lloches i bwysigion y sir.
Bellach mae’r byncar yn llawn dŵr ac mewn cyflwr gwael, ac yn sgil ymweliad diweddar â’r lle mae’r Cynghorydd Alun Lenny wedi dweud y byddai’n well ganddo guddio “dan ei gwtsh dan staer”.
“Mae’r lle’n afiach a dweud y gwir,” meddai wrth golwg360. “Mae dŵr ynddo fe. Mae’n eithaf drewllyd. Mae’r aer yn denau iawn.
“Roeddwn yn gorfod mynd â pheiriant yn fy llaw i fesur faint o ocsigen oedd yn yr awyr. Roedd hwnnw’n blipo o dro i’w gilydd. Mae’r fflaps dur yma sydd yn agor â hydrolics yn eu dal nhw.
“Erbyn i chi gerdded i bendraw’r lle – sydd maint byngalo mawr – mae’r awyr yn denau iawn. Dyna fe. Beth wnewch chi â fe?
“Mae rhai yn dweud y byddai’n atyniad i ymwelwyr. Ond dw i ddim yn gweld bod ystafell dan ddaear yn atyniad mawr.”
Coctels i’r cynghorwyr
Mae’r byncer yn cuddio dan faes parcio sydd oddi ar Heol Spilman, ac sydd ar hen safle Rhufeinig.
Cyngor Dosbarth Caerfyrddin – rhagflaenydd y Cyngor Sir presennol – oedd yn gyfrifol am ei adeiladu, ond nid ofn yr apocalyps oedd yr unig gymhelliant tros ei fodolaeth.
Roedd y Cyngor wedi bod eisiau codi parlwr coctels ar safle’r maes parcio, ac yn yr adeilad mi fydden nhw wedi gosod ystafell â chist coctels lle allai’r Cadeirydd dderbyn ymwelwyr.
Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd y Llywodraeth yn cynnig arian i gynghorau a oedd yn barod i ddarparu llochesi niwclear, ac felly derbyniodd y Cyngor yr arian gan obeithio codi’r parlwr hefyd.
Yn y pen draw cafodd y byncar ei adeiladu, ond daeth dim o’r cynlluniau am yr adeilad uwch ei ben.