Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn 68 oed gael ei daro gan gar Ford Eco Sport.
Mae’r digwyddiad yn cael ei alw yn Wrthdrawiad Traffig Difrifol gan yr heddlu.
Maen nhw yn apelio am dystion a welodd y car gwyn yn taro’r pensiynwr am tua saith o’r gloch nos Iau, Hydref 24, yn Tondu Road, Pen-y-bont ar Ogwr.
Fe gafodd y ffordd ei chau am tua phedair awr er mwyn archwilio lleoliad y ddamwain, ac mae’r heddlu eisiau diolch i’r gymuned gyfagos am eu hamynedd.
Mae’r pensiynwr yn yr ysbyty a’i gyflwr yn ddifrifol.
Hoffai’r heddlu siarad gydag unrhyw a welodd y digwyddiad neu sydd â lluniau dashcam o’r car gwyn Ford cyn, yn ystod neu ar ôl y digwyddiad.