Mae gan Gymru fwy na dau drywydd y gallai dilyn yn y dyfodol a dylwn roi mwy o ystyriaeth i’r posibiliadau eraill.
Dyna mae cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi ei ddweud ar drothwy trafodaeth ar ddyfodol yr undeb ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae’r Aelod Cynulliad Llafur yn gefnogol o ffederaliaeth, ac mae’n pryderu bod annibyniaeth a’r drefn sydd ohoni yn cael eu portreadu fel yr unig opsiynau sydd ar gael.
“Ddylwn ni ddim edrych ar y ddadl fel rhywbeth rhwng annibyniaeth a’r status quo,” meddai wrth golwg360. “Mae yna opsiynau eraill.
“Ac i fi, dyna pam mae’n hollbwysig bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ffederaliaeth a pha fath o fodel byddai’n gweithio.
“Pa fath o strwythur [dylwn gael] fel bod perthynas da rhwng gwledydd yr ynysoedd hyn yn y pen draw.”
“Lleiafrif” o hyd
Mae Carwyn Jones yn teimlo bod “y model o sofraniaeth seneddol yn Llundain wedi torri” ac mae’n cydnabod nad yw pobol “yn erbyn annibyniaeth yn yr un ffordd ag oedden nhw”.
Er hynny mae’n pwysleisio nad yw’r mwyafrif o bobol yn cefnogi annibyniaeth yng Nghymru, ac mae’n teimlo mai rhagor o bwerau – nid hunan ymreolaeth llwyr – fyddai orau i Gymru.
“Mae’n rhaid i ni gofio wrth gwrs – er fy mod yn cyfaddef bod twf wedi bod yn y nifer sydd o blaid annibyniaeth – mae twf wedi bod yn y rheiny sydd eisiau gwybod mwy am annibyniaeth – y lleiafrif yw hynna dal i fod,” meddai. “Rhwng 20% a 30% o’r boblogaeth.
“Dw i’n credu bod Cymru mewn sefyllfa lle mae moyn gweld mwy o autonomy ond nid annibyniaeth lwyr. Felly mae’n hollbwysig bod opsiynau sydd yn cynnwys y safbwynt yna yn cael ei rhoi o flaen pobol Cymru.”
Dangosodd arolwg barn diweddar y byddai 41% yn pleidleisio o blaid annibyniaeth i Gymru pe bai’n golygu bod modd i’r wlad aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Digwyddiad Aberystwyth
Bydd y brifysgol yn cynnal ‘Trafodaeth ar Fil Deddf yr Undeb gan Grŵp Diwygio’r Cyfansoddiad’ yn Yr Hen Goleg brynhawn heddiw (dydd Iau, Hydref 24).
Mae Carwyn Jones bellach yn aelod o Bwyllgor Llywio’r Grŵp Diwygio’r Cyfansoddiad (CRG), ac yn ymuno â fe yn y drafodaeth bydd Syr Paul Silk, a’r Arglwydd Peter Hain.
Mae’r CRG yn galw am ddiwygio’r Deyrnas Unedig ac wedi cyflwyno Bil Deddf yr Undeb gyda’r nod o wneud hynny.