Mae Nicola Sturgeon a Mark Drakeford yn dweud y byddan nhw’n croesawu etholiad cyffredinol cyn y Nadolig.
Mewn cynhadledd i’r wasg yn Llundain heddiw (dydd Mercher, Hydref 23), fe bwysleisiodd y ddau brif weinidog eu gwrthwynebiad i fargen Brexit Boris Johnson.
Fe ddisgrifiodd Nicola Sturgeon y fargen fel un “wael”, a dywedodd y byddai’n cael ei gwrthod yng Nghaeredin a Bae Caerdydd.
Mae hynny’n golygu y gallai llywodraethau Cymru a’r Alban – am y tro cyntaf erioed yn hanes datganoli – wrthod deddfwriaeth gan San Steffan a fyddai’n cael effaith ar eu gwledydd.
Refferendwm ynteu etholiad?
Dywedodd Mark Drakeford hefyd ei fod yn ffafrio refferendwm arall ar Brexit, ond mae’n ddigon parod i gefnogi etholiad cyffredinol os y daw hwnnw’n gyntaf.
“Os y daw refferendwm, fe ddylwn ni ddal gafael ynddo yn gadarn,” meddai Prif Weinidog Cymru. “Os y daw etholiad cyffredinol yn gyntaf, dw i eisiau etholiad cyffredinol.”
Fe gynhaliodd y ddau brif weinidog gynhadledd i’r wasg ar ôl ysgrifennu at Boris Johnson a Llywydd yr Undeb Ewropeaidd, Donald Tusk, yn gofyn am estyniad i Brexit.
Dydyn nhw ddim eisiau i wledydd Prydan adael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31 oherwydd bod angen mwy o amser i graffu ar y fargen Brexit ddiweddaraf, medden nhw.