Mae’r athrawes sydd newydd gael ei choroni’n Bennaeth y Flwyddyn mewn seremoni wobrwyo Brydeinig, yn dweud mai gwobr i gymuned yr ysgol yw’r teitl, yn hytrach nag anrhydedd bersonol.
Fe gafodd Rhian Morgan Ellis, Pennaeth Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, ei chydnabod mewn seremoni ar gyfer ysgolion gwledydd Prydain nos Sul (Hydref 20).
Roedd hi’n cynyrchioli un o ddwy ysgol cyfrwng Cymraeg oedd yn rhan o’r digwyddiad aruchel a oedd yn cynnwys dros 500 o bobol ac yn dyfarnu 11 gwobr i’r sector addysg.
“Fel dw i wedi dweud a dweud wrth y disgwyblion, gwobr i gymuned yr ysgol yw hon, yn hytrach na gwobr i mi,” meddai Rhian Morgan Ellis wrth golwg360.
“Oni bai fod pob elfen o’r gymuned yn chwarae ei rhan, faswn i ddim yn gallu cyflawni dim byd.”